Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Un Cwtsh Fawr
Bu staff a myfyrwyr o Goleg Penybont ac aelodau o’r Grŵp Cymunedol - ‘Prosiect Symud Ymlaen’ - yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen (nawdd sant cariadon Cymru) ar fore Mawrth 25 Ionawr. Mae’r diwrnod yn dathlu’n hiaith, diwylliant a menter Cymreig trwy ddigwyddiadau rhyngweithiol cyffrous gan orffen gyda ‘Un Cwtsh Mawr’ am 12:15pm.
Pwrpas ‘Un Cwtsh’ yw creu cyfleoedd newydd ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, Eleni fe benderfynodd myfyrwyr Busnes Coleg Penybont godi ymwybyddiaeth ac arian i gefnogi Ysgol Gynradd Llangynwyd ym Maesteg. Y nod yw codi £2500 i godi ystafell ddosbarth allanol i hybu datblygu addysgiadol.
Cymerodd adrannau ar draws y Coleg ran ryngweithiol wth ddarparu gweithgareddau arloesol i gynhyrchu elw ar gyfer Ysgol Gynradd Llangynwyd gan gynnwys:
• Bu’n myfyrwyr Arlwyo yn gwneud a gwerthu dewisiad o deisenni, bisgedi a siocled Cymreig
• Gwnaeth myfyrwyr Celf a Dylunio bathodynnau y gallai ymwelwyr eu prynu am 50c a £1 yr un
• Cynigiodd myfyrwyr o Gwallt a Harddwch driniaeth dwylo, siapio aeliau a thylino pen i ymwelwyr
• Bwth ffotograffiaeth ‘Cwtsh Sydyn i Mi’ gyda’n myfyrwyr ‘Rhyfeddodau Gweithio’. Hefyd fe wnaeth ein myfyrwyr Rhyfeddodau Gweithio waith gwych wrth helpu i drefnu’r digwyddiad a sicrhau fod popeth yn mynd yn mynd yn hwylus ar y diwrnod.
• Gwnaeth myfyrwyr cyn-alwedigaethol fagnedau rhewgell y gallai myfyrwyr eu prynu.
• Rhoi olion bysedd ar ein Bwrdd Calon Cwtsh ac ymchwiliad safle trosedd gyda’n Myfyrwyr Gwyddoniaeth Fforensig.
• Addurno teisennau cwpan a chardiau rhamantaidd gyda’n myfyrwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
• Cornel Cwtsh – gallai ymwelwyr ysgrifennu negeseuon serch yn Gymraeg a Saesneg
• Cafodd ymwelwyr hefyd wledd o gerddoriaeth fyw gan ein myfyrwyr Celfyddydau Perfformio.
Yn ychwanegol at hyn, cynhaliodd grŵp o fyfyrwyr Busnes gystadleuaeth i weld pwy a allai gynllunio’r crys-T Cwtsh newydd. Y gobaith yw y bydd y rhain yn cynhyrchu elw mawr ar gyfer yr ysgol. Tia John, disgybl 5 oed yn Ysgol Gynradd Llangynwyd, a enillodd y gystadleuaeth, ac fe gyflwynwyd y cynllun crys-T buddugol iddo gan y Myfyrwyr Busnes. Roedd modd i fyfyrwyr ac ymwelwyr brynu’r crysau- hyn yn ystod y dydd.
Gyda’i gilydd gall Un Cwtsh wneud gwahaniaeth.