Triawd yn Ennill Rownd Ranbarthol Cyfrifeg Worldskills

Worldkskills Accounting Competition

Enillodd Samantha Rhodes, Lisa Mably a Ellie Simpson rownd ranbarthol bwysig Technegydd Cyfrifeg Worldskills, a gynhaliwyd yng Ngholeg Gwyr.

Hon oedd y rownd gyntaf o’i bath yng Nghymru a thîm Coleg Penybont, dan enw ‘The Liabilities’ gafodd y sgôr uchaf gan drechu 15 coleg arall.

 Dywedodd Sue Evans, Darlithydd Cyfrifeg “Roedd y gystadleuaeth yn anodd iawn. Roedd yn atgynhyrchu amgylchedd cyfrifeg pwysau uchel ac ymatebodd ein tîm yn dda iawn i’r her.”

Canmolodd Jeff Cuthbert, Dirprwy Weinidog Sgiliau, y tîm am eu llwyddiant. Dywedodd “Mae’r cystadlaethau hyn yn ffordd wych i ddangos talent a gallu cenhedlaeth newydd o bobl mewn gwahanol swyddi.”

Roedd Samantha, Lisa ac Ellie yn neilltuol o falch o’u llwyddiant, gan ystyried na chafodd diwrnod y gystadleuaeth y dechrau gorau pan dorrodd eu car i lawr ar y ffordd i Abertawe!

Yn anffodus, ni chafodd y tîm ei ddewis i gystadlu’n genedlaethol. Fodd bynnag, roedd hyn yn gamp enfawr i’r tair myfyrwraig ac yn brofiad ardderchog.

Posted on 02/08/2011 by The Marketing Team