Tiwtor Ysbrydoli! y Flwyddyn 2012 NIACE

Mae Coleg Penybont yn falch iawn i gyhoeddi yr enillodd David Bassett, Darlithydd Arlwyo Proffesiynol, deitlau 'Gwobr Llwyddiant Oes' a 'Tiwtor y Flwyddyn 2012' yng Ngwobrau dysgu Ysbrydoli! NIACE Dysgu Cymru.

Bu David yn addysgu yng Ngholeg Penybont am bron 29 mlynedd ac ni chollodd ddim o'i frwdfrydedd neu angerdd am addysgu. Manteisiodd cannoedd o fyfyrwyr o'i brofiad, ar ôl iddo weithio'n flaenorol fel Chef yn y Llynges Fasnachol, ynghyd â'i arddull addysgu ragorol a'i natur gyfeillgar a siriol.

Dywedodd Jane Wattleworth, pennaeth Gwasanaethau i Bobl yng Ngholeg Penybont a enwebodd David: "Mae'r tîm Gwasanaethau i Bobl yng Ngholeg Penybont wrth eu bodd fod David Bassett wedi ennill y gwobrau. Yn bersonol, mae ei angerdd parhaol am y pwnc y mae'n ei addysgu a'i frwdfrydedd yn cymell y myfyrwyr yn fy rhyfeddu bob amser. Mae Gwobr 'Tiwtor y Flwyddyn 2012' yn cydnabod fod ei dalent addysgu yr orau yng Nghymru, cymeradwyaeth haeddiannol iawn."

Dywedodd David Bassett, "Mae'n anodd disgrifio faint mae hyn yn ei olygu i mi. Rwy'n teimlo y dylwn dderbyn y gwobrau ar ran yr holl staff yn Adran Arlwyo Coleg Penybont sy'n fy nghefnogi ac yn fy ysbrydoli bob dydd. Ar lefel bersonol, cefais lwyth o negeseuon gan gydweithwyr yn y Coleg a'r diwydiant yn fy llongyfarch ac yn dymuno'n dda i mi."

Derbyniodd David ei wobrau yn seremoni Gwobrau Dysgu Ysbrydoli! NIACE Dysgu Cymru yn Venue Cymru, Llandudno ddydd Iau 10 Mai dan arweiniad Rhun ap Iorwerth a Sian Lloyd o BBC Cymru. Gwyddai David ei fod wedi ennill y 'Wobr Llwyddiant Oes', fodd bynnag ar y noswaith y cyhoeddwyd gwobr 'Tiwtor y Flwyddyn 2012'.

Cafodd 12 o diwtoriaid o Goleg Penybont eu cydnabod gan NIACE Dysgu Cymru gyda Alison Kent (Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith), Phillip Jones (Tiwtor Celfyddydau Perfformio) yn cael cymeradwyaeth uchel a nifer o diwtoriaid wedi eu henwebu ar gyfer Gwobrau Dysgu Ysbrydoli! NIACE Dysgu Cymru.

Posted on 14/05/2012 by The Marketing Team