Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Staff yn cymryd rhan yn rhaglen 'Cyfnewid' S4C
Dim ond nodyn i ddweud y cafwyd cynrychiolaeth dda o Goleg Pen-y-bont ar raglen ‘Cyfnewid’ S4C nos Fercher Mawrth 23ain. Fe wnaeth Claire Goerge (Tiwtor Busnes a TG) a Heledd Smith (Tiwtor Cymraeg) (ill dwy’n gwisgo crysau T) waith arbennig o ran hyrwyrddo prosiect ‘Cwtch’ y coleg ‘a’r prosiect adeiladau tai gwydr o foteli plastig gan siarad am wahanol agweddau o waith y myfyrywr. Gwelwyd hefyd broetshis wedi’u gwneud gan fyfyrwyr Celf a Dylunio’r coleg. Bu Cath Williams hefyd yno gyda chriw o’i myfyrwyr safon uwch yn hyrwyddo dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion. Chware teg hefyd i Erina Roberts (Cynorthwy-ydd Gofal, Tŷ Weston) am fod yn ddigon dewr i adael iddyn nhw ffilmio’r rhaglen yn ei thŷ!
Os am wylio’r rhaglen cliciwch: Cyfnewid S4C nos Fercher Mawrth 23ain (symudwch y botwm ar y gwaelod ymlaen at 3.55 i weld Claire a Heledd a 15.06 i weld Cath)
Hawlfraint © 2012 Coleg Penybont