Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Saflon InTuition yn lansio ei amrediad ei hun o olew hanfodol

Bu staff Therapi Harddwch Coleg Penybont yn cydweithio gyda “The Aromatherapy Company” i gynllunio eu brand eu hunain o olew hanfodol sy’n arbennig ar gyfer eu myfyrwyr a chleientiaid i Salon Intuition y Coleg.
Mae gan yr adran ymroddiad i ddarparu cynnyrch sy’n naturiol a moesegol. Mae’r olew organig pur wedi eu deillio a’u creu yn eu ffurf buraf ac yn rhydd o Paraben a SLS, gydag Ardystiad Organig Cymdeithas y Pridd a chymeradwyaeth y Cyngor Masnach Aromatherapi.
“Bu’n brofiad gwych gweithio gyda ‘The Aromatherapy Company’ i greu’r amrywiaeth yma o olew ac ynghyd â’n salonau newydd sbon, gall ein cleientiaid ddisgwyl triniaeth a gwasanaeth rhagorol yn InTuition”, meddai Stephanie Maunder, Darlithydd Harddwch a Therapi Holistig.
Mae InTuition yn cynnig amrywiaeth o driniaethau gwallt, harddwch a therapïau ategol ar brisiau disgownt, ynghyd â sgraffiniad micro derm a thriniaethau codi wyneb heb olygu llawdriniaeth.
Felly dewch draw a rhoi cynnig ar y dewis hyfryd o fathau elw drosoch eich hun ... bydd y pedwar person cyntaf i alw i archebu tyliniad llawn 30 munud ac yn rhoi’r cyfeirnod ‘INTUITION OILS’ yn derbyn y driniaeth hon AM DDIM yn ystod Ionawr 2012, Ffôn: 01656 302427.