Prentisiaethau Celfyddydau Creadigol

Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol wedi lansio eu rhaglen Prentisiaeth Celfyddydau Creadigol, yn darparu’r llwybr Celfyddydau Cymunedol.

Mae’r Prentisiaethau Celfyddydau Creadigol yn gynnyrch ‘Sgiliau Creadigol a Diwylliannol’. Cynlluniwyd y Rhaglen mewn ymateb i ganfyddiadau a ddangosodd fod angen mwy o ddysgu seiliedig ar waith o fewn ein sectorau, a dymunai Sgiliau Creadigol a Diwylliannol gynllunio fframwaith prentisiaeth addas i’r diben yn diwallu anghenion cyflogwyr o ran cynnwys a dyluniad.

Bydd y brentisiaeth yn rhoi, am y tro cyntaf, gymwysterau ansawdd uchel seiliedig ar waith ac a fydd yn derbyn tâl ar lefelau mynediad a goruchwylio mewn meysydd sgiliau technegol ac arbenigol lle mae 42% o gyflogwyr sector creadigol a diwylliannol Cymru wedi dynodi anghenion sgiliau ar hyn o bryd ac i’r dyfodol.

“Mae cyflogwyr yn dweud yn gyson nad yw’r dalent newydd sy’n ymuno â’r sector creadigol a diwylliannol yn barod am waith. Mae’r cynllun Prentisiaeth yn helpu talent newydd i ddatblygu’r ‘sgiliau cyflogadwyedd’ hanfodol sydd eu hangen i gyflogwyr fel bod pobl yn ychwanegu gwerth i sefydliadau cyn gynted ag sydd modd. Hyd yma mae’r deg prentis wedi datblygu cyfoeth o sgiliau ‘ar y swydd’ yn ogystal â chael cysylltiadau gan brentisiaid o ystod o sefydliadau celf ar draws Cymru. Mae’r cynllun yma’n sicrhau fod pobl ifanc yn manteisio i’r eithaf ar eu talentau ac yn cael y sgiliau y maent eu hangen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus a sicrhau fod ein diwydiannau creadigol a sectorau diwylliannol yn parhau i ffynnu”, meddai Sharon James, Pennaeth Celfyddydau Creadigol, Coleg Penybont.

Dim ond pedwar coleg yng Nghymru sy’n cynnig prentisiaethau Celfyddydau Creadigol (dau yn y Gogledd a dau yn y De).

Posted on 07/04/2011 by The Marketing Team