Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » ‘Ar Agor am Fusnes' - Arddangosfa Gorau yn y Sioe yn yr Academi Gelf Newydd



Ddydd Gwener 22 Mehefin roedd Coleg Penybont 'ar agor am fusnes' yn eu Hacademi Gelf newydd yn Stryd Trade, Caerdydd lle cynhaliwyd arddangosfa 'Gorau yn y Sioe' o gelfwaith Diploma Sylfaen myfyrwyr Celf a Dylunio.
Dywedodd Sharon James, Pennaeth Celfyddydau Creadigol Coleg Penybont "Roeddem wrth ein bodd i fedru dangos y darnau gorau oll o'n sioeau celf a dylunio diwedd y flwyddyn yn yr Academi Gelf newydd. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu myfyrwyr talentog Coleg Penybont a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd (UWIC) a chroesawu ein carfan newydd gyntaf o fyfyrwyr ar gyfer Diploma Sylfaen Caerdydd mewn Celf a Dylunio."
Mae Ysgol Celfyddydau Creadigol Coleg Penybont wedi addysgu'r Ddiploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ers blynyddoedd lawer, ac oherwydd eu henw da am addysgu ansawdd uchel a chefnogaeth i ddysgwyr, cysylltodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd (UWIC) â hwy yn ddiweddar i gyflwyno'r cwrs yng Nghaerdydd i 120 o fyfyrwyr.
Cafodd darpar fyfyrwyr, eu teulu a'u ffrindiau gyfle unigryw i fynychu'r arddangosfa, gan eu galluogi i ymgyfarwyddo gyda'r campws newydd, cwrdd â'r tiwtoriaid a dod i adnabod ei gilydd.
Soniodd llawer o'r myfyrwyr newydd faint o argraff oedd lleoliad canolog y Campws wedi'i wneud arnynt a hefyd y gofod braf ac agored sydd ar dri llawr.
Bydd myfyrwyr yn cael mynediad hefyd i adnoddau celf a dylunio UWIC a dyrannwyd llety i fyfyrwyr Coleg Penybont yn eu neuaddau preswyl Tŷ Pont Haearn.