Newyddion
Fel Coleg Addysg Uwch prysur, mae bob amser lawer iawn o bethau’n digwydd yn fewnol o fewn y Coleg, yn allanol ar draws ardal De Cymru ac o fewn y sector Addysg Bellach yn gyffredinol. Fel Coleg, gweithiwn gydag adrannau academaidd a chefnogaeth, yn ogystal ag asiantaethau allanol, i hyrwyddo eu newyddion, gweithgareddau a llwyddiannau.
Mae Tîm Marchnata’r Coleg yn trafod pob math o gyfathrebu:
- Cyfryngau
- Myfyrwyr
- Rhanddeiliaid/Cymuned
- Mewnol
- Adeiladu Dyfodol Disgleiriach gyda Leadbitter
- 29/02/2012
- Mae pedwar o fyfyrwyr Coleg Penybont wedi elwa'n ddiweddar o
brofiad gwaith gyda Leadbitter Group, un o brif gwmnïau
adeiladu y Deyrnas Unedig. Read more >>
- Camp Lawn i Goleg Penybont a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe
- 06/03/2012
- Maent yn dweud fod pethau yn dod mewn trioedd a bu hynny'n
wir ar gyfer Coleg Penybont a Chlwb Pêl-droed Dinas
Abertawe o'r brif gynghrair. Yr wythnos hon cyfarfu Brendan
Rodgers, Rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe a Mark Jones,
Pennaeth Coleg Penybont, i ffurfioli perthynas a fu'n
datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Read more >>
- Myfyrwyr Adeiladu Coleg Penybont y Cyntaf i Ddod yn 'Warcheidwaid yr Amgylchedd'
- 27/02/2012
- Myfyrwyr yn yr Academi Adeiladu yng Ngholeg Penybont yw'r
cyntaf i gymryd rhan mewn cynllun peilot o weithdai sy'n
helpu crefftwyr y dyfodol i ddeall eu cyfrifoldeb tuag at yr
amgylchedd wrth gael gwared â gwastraff adeiladu. Read more >>
- CVs Fideo yn Helpu Myfyrwyr gydag Anghenion Ychwanegol
- 03/10/2011
- Cafodd dau o fyfyrwyr Coleg Penybont gyfle’n ddiweddar i
gymryd rhan mewn cynllun CV fideo unigryw newydd sbon
gyda’r elusen ‘Follow Your Dreams’. Ffilmiwyd Danielle
Tanner yn astudio cwrs ceffylau a Gemma Jones, myfyrwraig
arlwyo, yn arddangos y sgiliau y maent wedi’u datblygu
drwy eu hyfforddiant yn y Coleg ac yn cael eu cyfweld gan
Martin Harris, sefydlydd Follow Your Dreams. Read more >>
- Mynd Nôl i Waith
- 23/02/2012
- Gofynnodd Shaw Trust i Hyfforddiant Engage ddatblygu cwrs
byr ar gyfer nifer o gleientiaid di-waith. Paratôdd yr
hyfforddwyr gwrs pwrpasol oedd yn parhau am wythnos a dysgu
sgiliau gwerthfawr iawn i'r cyfranogwyr. Read more >>
- Cydnabod Llwyddiant NVQ gyda Excelsior Plus
- 27/02/2012
- Cynhaliodd Prosiect Excelsior Plus yng Ngholeg Penybont
Seremoni gydnabyddiaeth Arbennig yn ddiweddar i anrhydeddu
12 o gyflogwyr a'u 36 o gyflogeion oedd wedi cwblhau
cymwysterau seiliedig ar waith yn y gweithle'n llwyddiannus
gydag Aseswyr NVQ Coleg Penybont. Read more >>
- Dilyn y Fflam
- 03/01/2012
- Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal cyfres o
arddangosiadau 'Dilyn y Fflam' yn y cyfnod cyn y cynhelir y
Gemau Olympaidd yn Llundain 2010. Mae un ohonynt yng
Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr rhwng Hydref 2011 -
Ionawr 2010. Read more >>
- Hyfforddiant Engage yng Ngholeg Penybont
- 22/02/2012
- Aeth tair blynedd heibio ers i Hugh James Solicitors
ddechrau cynllun peilot gyda Hyfforddiant
Engage[http://www.bridgend.ac.uk/%5bsitetree_link%20id=100%5d]yng
Ngholeg Penybont, ac mae'r berthynas yn mynd o nerth i
nerth, gyda'r Coleg bellach yn hyfforddi dros 50 o staff y
cwmni. Read more >>
- Myfyrwyr Gofal Plant yn Elwa o Ddysgu’n Ddwyieithog
- 10/05/2012
- O fis Medi 2012, bydd Coleg Pen-y-bont yn darparu eu rhaglen
Cache Lefel 3 mewn Gofal Plant, Dysgu a Datblygiad drwy’r
Gymraeg[[sitetree_link id=1115]] a’r Saesneg, gan alluogi
myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg o Ysgolion Cyfun lleol fel
Ysgol Llanhari ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd ac ysgolion
cyfrwng Cymraeg eraill yn yr ardal i barhau i ddysgu drwy
gyfrwng y Gymraeg ar lefel addysg bellach. Read more >>
- BEE Power
- 12/09/2011
- Mae myfyrwyr o Goleg Penybont a disgyblion o Ysgol Gynradd
Dolau wedi cyfansoddi cân wreiddiol hip-hop ‘Bee Power’
i dynnu sylw at drafferthion y gacynen a chodi arian i achub
y pryfyn anhygoel yma. Read more >>
- Arglwydd Digby Jones yn Cefnogi Hyfforddiant Galwedigaethol
- 27/10/2011
- Daeth cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd ddydd Llun 24
Hydref yng Ngholeg Penybont i wrando ar araith ysbrydoledig
Arglwydd Digby Jones dan y teitl ‘Datblygiad Busnes drwy
Dwf Economaidd’. Read more >>
- Llwyddiant yng Ngwobrau Gweithgynhyrchu EEF
- 18/11/2011
- Tascha Evans Read more >>
- Cyllid ar gael i gynyddu sgiliau yn niwydiant bwyd Cymru
- 21/10/2011
- Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
(UWIC) wedi lansio rhaglen astudiaeth newydd drwy ei
phartneriaeth Darpariaeth Cydweithio sy’n cynnwys Coleg
Penybont. Gallai pobl sy’n gweithio yn y sector bwyd
preifat sy’n byw a/neu weithio yng Ngorllewin Cymru a’r
Cymoedd fod â hawl i le sydd wedi ei ariannu’n llawn
neu’n rhannol ar y rhaglen – mae amodau yn weithredol. Read more >>
- Partneriaeth Lleoliad Gwaith gyda Gwesty a Sba Dewi Sant
- 10/05/2012
- Cafodd Kathryn Cochrane, Pennaeth Adnoddau Dynol, Angharad
Williams, Cydlynydd Digwyddiadau Arbennig a Dominic Powell,
Uwch Sous Chef, o Westy a Sba Dewi Sant eu croesawu i'r
Coleg yn ddiweddar i ymchwilio mwy o gyfleoedd lleoliad
gwaith ar gyfer ein myfyrwyr yn y Gwesty. Read more >>
- Myfyrwraig yn ENNILL Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn NIKON
- 15/04/2011
- Mae Melissa Jenkins, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Penybont
yn astudio BA (Anrh) Ymarfer Ffotograffig, wedi ENNILL Gwobr
Sylfaen Myfyriwr y Flwyddyn Nikon. Dyma un o’r gwobrau
proffil uchaf y gall myfyrwyr ei hennill. Read more >>
- Myfyriwr Jacpot
- 22/02/2012
- Mae cwmni Astra Games o Ben-y-bont ar Ogwr wedi medi
manteision cymryd myfyriwr o Goleg Penybont ar gyfer
lleoliad gwaith. Dim ond am ychydig ddyddiau y bu Elliott
Burkitt, sy'n astudio Technoleg Gwybodaeth, gyda'r cwmni cyn
iddo ddarganfod nam yn un o'u gemau cyfrifiadur. Gwnaeth
darganfyddiad Elliott gymaint o argraff ar y cwmni fel
iddynt gymryd mwy o fyfyrwyr lleoliad gwaith o'r Coleg ers
hynny. Read more >>
- Dosbarth Celf yn cymryd rhan mewn Cystadleuaeth Ddylunio Genedlaethol
- 18/11/2011
- Chwarare Teg Logo Read more >>
- Myfyrwyr TG yn ennill 5 o 9 Gwobr Worldskills
- 24/05/2011
- Read more >>
- Ennill Dyfarniad Aur am Safonau Iechyd Corfforaethol
- 26/07/2011
- Corporate Health Standard Mae Coleg Penybont yn hynod falch
i gyhoeddi ein bod wedi ennill Dyfarniad Aur Safon Iechyd
Corfforaethol. Read more >>
- Agor Theatr SONY Newydd
- 28/06/2011
- Rhydian Roberts opens Sony Theatre Read more >>
- Agor Canolfan Addysg Uwch Newydd
- 01/04/2011
- Roeddem yn hynod falch i groesawu Leighton Andrews,
Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, i agor ein
Canolfan Addysg Uwch newydd ddydd Iau 31 Mawrth 2011. Read more >>
- Dyfarniad Sylfaen Caerdydd mewn Celf a Dylunio
- 23/09/2011
- Mae Coleg Penybont yn falch iawn i gyhoeddi y caiff
‘Dyfarniad Sylfaen Caerdydd mewn Celf a Dylunio’, a
gyflwynir ar hyn bryd gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd,
ei gyflwyno gan Goleg Penybont o fis Medi 2012 mewn lleoliad
canolog newydd yng Nghaerdydd yn agos at gampws presennol
Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd. Gan ddefnyddio’r arbenigedd
a’r profiad a wnaeth y Ddiploma Sylfaen yn Ysgol Celf a
Dylunio Caerdydd mor llwyddiannus, mae’n fwriad gan Goleg
Penybont feithrin a datblygu’r ddarpariaeth ymhellach. Mae
hyn yn newyddion da iawn ar gyfer cymhwyster sy’n ganolog
i ddatblygiad artistiaid a dylunwyr o bob rhan o Gymru a
llawer o’r Deyrnas Unedig. Read more >>
- Saflon InTuition yn lansio ei amrediad ei hun o olew hanfodol
- 12/09/2011
- Bu staff Therapi Harddwch Coleg Penybont yn cydweithio gyda
“The Aromatherapy Company” i gynllunio eu brand eu
hunain o olew hanfodol sy’n arbennig ar gyfer eu myfyrwyr
a chleientiaid i Salon Intuition y Coleg. Read more >>
- Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn
- 28/06/2011
- Melissa Jenkins, VQ Learner of the Year Read more >>
- Cynnal cystadlaethau rhanbarthol a therfynol Technoleg Gwybodaeth Worldskills yng Ngholeg Penybont
- 26/07/2011
- IT Regional Worldskills Heat 2011 Read more >>
- Yr Arglwydd Digby Jones yn dod i Goleg Penybont
- 22/09/2011
- Mae gwledd yn disgwyl cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr ym
mis Hydref gyda’r Arglwydd Digby Jones wedi cyhoeddi y
bydd yn ymweld â’r dref am y tro cyntaf erioed. Read more >>
- Coleg Penybont yn lleoliad cystadleuaeth i ganfod prif dalent trin gwallt Prydain
- 07/04/2011
- Bydd myfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan
mewn digwyddiad pwysig i ganfod y bobl trin gwallt fwyaf
proffesiynol. Read more >>
- Myfyrwraig yn ennill ysgoloriaeth theatr o fri
- 12/07/2011
- Holly Bluett Trechodd Holly Bluett, sy’n fyfyrwraig yng
Ngholeg Penybont, 7,000 o sêr theatr y dyfodol i ennill
ysgoloriaeth i ysgol o fri yn Llundain. Read more >>
- Triawd yn Ennill Rownd Ranbarthol Cyfrifeg Worldskills
- 02/08/2011
- Worldkskills Accounting Competition Read more >>
- Lle 1af i Fyfyrwraig Trin Gwallt Coleg Penybont
- 15/04/2011
- Mae’n bleser mawr gan Goleg Penybont gyhoeddi i’w
myfyrwraig, Jade Summers, ennill y lle cyntaf yn rownd
ranbarthol Cystadleuaeth Trin Gwallt WorldSkills DU ddydd
Iau 14 Ebrill. Cynhaliwyd y digwyddiad pwysig i ganfod pobl
trin gwallt fwyaf creadigol y genedl yn salonau gwallt
newydd gwych Coleg Penybont. Read more >>
- Carwyn Jones, Arweinydd Llafur, yn cwrdd â Myfyrwyr
- 15/04/2011
- Ar ddydd Mawrth 12 Ebrill bu Carwyn Jones, Arweinydd Llafur,
yn annerch dros 150 o fyfyrwyr o gampysau Penybont a
Phencoed, gan ateb ystod eang o gwestiynau am faterion yn
effeithio ar bobl ifanc heddiw yn cynnwys tai, iechyd,
cyllid myfyrwyr, y system les, cyflogaeth ac ymfudiad. Read more >>
- Dathlu Llwyddiant Dysgu Seiliedig ar Waith
- 04/04/2011
- Cynhaliwyd y seremoni gwobrau dysgu seiliedig ar waith
gyntaf erioed yng Ngholeg Penybont ddydd Mercher 21 Mawrth i
ddathlu llwyddiannau ysbrydoledig ymgeiswyr dethol. Read more >>
- Un Cwtsh Fawr
- 26/01/2011
- Bu staff a myfyrwyr o Goleg Penybont ac aelodau o’r Grŵp
Cymunedol - ‘Prosiect Symud Ymlaen’ - yn dathlu Diwrnod
Santes Dwynwen (nawdd sant cariadon Cymru) ar fore Mawrth 25
Ionawr. Mae’r diwrnod yn dathlu’n hiaith, diwylliant a
menter Cymreig trwy ddigwyddiadau rhyngweithiol cyffrous gan
orffen gyda ‘Un Cwtsh Mawr’ am 12:15pm. Read more >>
- Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn agor yr Academi Adeiladu
- 14/02/2011
- Ymunodd Janice Gregory AC Ogwr, gwahoddedigion o’r sector
adeiladu a myfyrwyr a staff Coleg Penybont â Carwyn
Jones, Prif Weinidog Cymru, i agor ein Hacademi Adeiladu £5
miliwn yn swyddogol yng Nghampws Pencoed brynhawn dydd Iau
10 Chwefror. Read more >>
- Prentisiaethau Celfyddydau Creadigol
- 07/04/2011
- Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol wedi lansio eu rhaglen
Prentisiaeth Celfyddydau Creadigol, yn darparu’r llwybr
Celfyddydau Cymunedol. Read more >>
- Staff yn cymryd rhan yn rhaglen 'Cyfnewid' S4C
- 29/03/2011
- Dim ond nodyn i ddweud y cafwyd cynrychiolaeth dda o Goleg
Pen-y-bont ar raglen ‘Cyfnewid’ S4C nos Fercher Mawrth
23ain. Fe wnaeth Claire Goerge (Tiwtor Busnes a TG) a Heledd
Smith (Tiwtor Cymraeg) (ill dwy’n gwisgo crysau T) waith
arbennig o ran hyrwyrddo prosiect ‘Cwtch’ y coleg
‘a’r prosiect adeiladau tai gwydr o foteli plastig gan
siarad am wahanol agweddau o waith y myfyrywr. Gwelwyd hefyd
broetshis wedi’u gwneud gan fyfyrwyr Celf a Dylunio’r
coleg. Bu Cath Williams hefyd yno gyda chriw o’i myfyrwyr
safon uwch yn hyrwyddo dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion.
Chware teg hefyd i Erina Roberts (Cynorthwy-ydd Gofal, Tŷ
Weston) am fod yn ddigon dewr i adael iddyn nhw ffilmio’r
rhaglen yn ei thŷ! Read more >>
- Adain Fairwood yn Agor yn Nhŷ Weston
- 20/01/2011
- Roedd staff Coleg Penybont, cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth
Fairwood a gwahoddedigion yn bresennol yn agoriad ‘Adain
Fairwood’ yn Safle Preswyl Tŷ Weston yn y Coleg ar fore
Iau 2 Rhagfyr. Read more >>
- Coleg Penybont yn Dathlu ‘Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang’
- 25/11/2010
- Digwyddodd Wythnos Entrepreneuriaeth Ryngwladol y Deyrnas
Unedig rhwng 15 Tachwedd a dydd Gwener 21 Tachwedd 2010.
Mae’r Wythnos yn gyfle i arddangos a dathlu’r holl waith
entrepreneuraidd sy’n digwydd gydol y flwyddyn. Y llynedd
mynychodd mwy na 500,000 o bobl ddigwyddiadau ledled y DU yn
ystod yr wythnos. Read more >>