Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Mynd Nôl i Waith

Gofynnodd Shaw Trust i Hyfforddiant Engage ddatblygu cwrs byr ar gyfer nifer o gleientiaid di-waith. Paratôdd yr hyfforddwyr gwrs pwrpasol oedd yn parhau am wythnos a dysgu sgiliau gwerthfawr iawn i'r cyfranogwyr.
Roedd y cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau; gweithdrefnau sylfaenol iechyd a diogelwch, sgiliau'n ymwneud â chyfathrebu, gweithio gyda phobl eraill a sut i ddod yn fwy cyflogadwy. Strwythurwyd y cwrs yn benodol i ddiwallu anghenion manwerthu a gwaith warws ac roedd hyd yn oed yn cynnwys enghreifftiau ymarferol o dechnegau cyfweld da ac atebion priodol.
Dywedodd Jaime Devine, asesydd Hyfforddiant Engage sy'n seiliedig yng Ngholeg Penybont: "Gofynnodd Shaw Trust i ni hyfforddi cleientiaid a deimlent oedd yn barod am swydd i baratoi ar gyfer cyfweliadau. Gyda'r briff hwn dan sylw, fe wnaethom ystyried y sgiliau craidd fyddai eu hangen i wneud argraff ar gyflogydd ac aethom ati i baratoi'r cwrs. Roedd gan rai o'r cyfranogwyr ar y cwrs anghenion, a chawsant gynnig dulliau amgen o hyfforddi, megis recordiad ar lais o weithgareddau seiliedig ar bapur."
Trefnwyd cyfweliad gyda chadwyn archfarchnadoedd Morrisons i'r 12 a gymerodd ran. Cynigiwyd swydd i dri aelod o'r cwrs hyfforddiant yn dilyn y broses gyfweld.
Dywedodd Chris Scott, Cydlynydd Dewis Gwaith: "Roedd y cwrs hyfforddiant yn berffaith ar gyfer ein hanghenion - ac mae'r canlyniadau'n siarad drostynt eu hunain gyda chyfranogwyr a gymerodd ran yn y cwrs yn sicrhau swydd yn syth wedyn.
Ychwanegodd Jaime, "Mae llwyddiant y bartneriaeth wedi arwain at bum wythnos arall o gyrsiau peilot. Rwy'n cyflwyno'r cyrsiau ers tair wythnos erbyn hyn ac mae'r canlyniadau hyd yma yn gadarnhaol iawn."