Myfyrwyr TG yn ennill 5 o 9 Gwobr Worldskills

 

 

 

 

 

 

 

Bu myfyrwyr technoleg gwybodaeth o bob rhan o Gymru yng Ngholeg Penybont ar 20 Mai i gymryd rhan mewn tair cystadleuaeth bwysig WorldSkills UK i ganfod gweithredwyr Cisco a Microsoft mwyaf talentog y genedl.

Bu cystadleuwyr yn profi eu sgiliau mewn tri chategori - Technegydd Rhwydwaith Cisco, Arbenigwr Cymwysiadau Microsoft a Thechnegydd TG Microsoft, a gofynnwyd iddynt wneud nifer o dasgau ymarferol tebyg i’r hyn y medrent ei brofi mewn diwrnod arferol yn y gwaith.

Enillodd myfyrwyr Coleg Penybont y gwobrau dilynol:

  • Christopher Bayliss – 1af Technegydd TG Microsoft
  • Andrew Bayliss – 2il Technegydd TG Microsoft
  • Stuart Henderson - 1af Technegydd Rhwydwaith Cisco
  • Matthew Parker – 3ydd Technegydd Rhwydwaith Cisco
  • Abigail Davies - 3ydd Arbenigwr Cymwysiadau Microsoft

Roedd cystadlaethau WorldSkills UK yn un o nifer o rowndiau rhanbarthol a gynhelir ar draws y Deyrnas Unedig, a bydd enillwyr yn y digwyddiadau hyn yn cael cyfle i gystadlu yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig gyda chyfle i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn nigwyddiad Rhyngwladol Worldskills yn 2013.

Cynhaliodd Coleg Penybont hefyd Gystadleuaeth ‘Her Fawr’ Sgiliau Iau ar gyfer pedair Ysgol Gynradd leol (Ysgol Gynradd Llidiart, Ysgol Gynradd Llangynwyd, Ysgol Gynradd Dolau ac Ysgol Gynradd Llanilltud Fawr). Y gystadleuaeth gyntaf o’i bath yng Nghymru, cymerodd y disgyblion o’r ysgolion hyn ran yn yr heriau sgiliau dilynol:

  • Cynllunio poster yn hysbysebu cystadleuaeth TG WorldSkills
  • Paratoi cyflwyniad am Gystadleuaeth TG WorldSkills
  • Cynllunio logo dwyieithog ar gyfer Sgiliau Iau 2011
  • Adeiladu cerflun o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu

Cafodd y ceisiadau wedyn eu beirniadu gan: Tracy Bennett (Ensigner), Jonathan Price (Skills Factory), Cynghorydd Tildesley (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr), Robert Evans (Coleg Penybont) a Grant Cockerill (Groundwork), gyda phob ysgol yn ennill un o’r heriau.

Posted on 24/05/2011 by The Marketing Team