Myfyrwraig yn ENNILL Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn NIKON

Mae Melissa Jenkins, sy’n fyfyrwraig yng Ngholeg Penybont yn astudio BA (Anrh) Ymarfer Ffotograffig, wedi ENNILL Gwobr Sylfaen Myfyriwr y Flwyddyn Nikon. Dyma un o’r gwobrau proffil uchaf y gall myfyrwyr ei hennill.

Mae Sefydliad Nikon yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ffotograffiaeth blwyddyn olaf i ennill yr hwb eithaf i hybu eu gyrfa - cael eu cyflogi am dri mis fel cymhorthydd ffotograffydd i John Wright, y ffotograffydd ffasiwn adnabyddus! Bydd yr enillydd yn byw yn Llundain a hefyd yn derbyn £3,000 i helpu gyda chostau byw a chamera ac offer lens Nikon proffesiynol gwerth £4,000.

“Mae bod un o’n myfyrwyr ennill hyn yn erbyn yr holl raddedigion blwyddyn olaf o blith gweddill prifysgolion a cholegau blaenllaw Prydain yn RHAGOROL!!! Mae dweud fy mod wrth fy modd dros Melissa yn ddweud rhy gynnil”, meddai David Lewis, Tiwtor Cwrs, BA (Anrh) Ymarfer Ffotograffig.

Ar ôl astudio am bedair blynedd mewn Ymarfer Ffotograffig, cafodd gwaith ffotograffiaeth ffasiwn Melissa ei gyhoeddi yn ddiweddar yng nghylchgrawn Sublime. Mae Sublime yn

 gylchgrawn rhyngwladol deufisol, ac mae gan Melissa eitem ddeg tudalen ynddo ynghyd â’r clawr blaen. Caiff ei gwaith hefyd ei ddangos yn arddangosfa Origin ffoto yn Llundain fydd yn agor yn Oriel Blackall yn Shoreditch rhwng dydd Iau 5 a dydd Sadwrn 7 Mai, a Sioe Graddedigion Coleg Penybont ym mis Mehefin.

Medrir gweld gwaith Melissa a’i chyd-fyfyrwyr yn www.originffoto.com

 

Posted on 15/04/2011 by The Marketing Team