Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Llwyddiant yng Ngwobrau Gweithgynhyrchu EEF

Mae’r Ysgol Beirianneg wrth ei bodd yn cyhoeddi fod Coleg Penybont wedi cael dau enillydd cyffredinol yng Ngwobrau Gweithgynhyrchu i'r Dyfodol EEF2011 a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug, Gogledd Cymru ddydd Mercher, 3 Tachwedd.
Enillodd Tascha Evans y Wobr Dysgwr Gorau. Ymunodd Tascha â’r Coleg yn 2010 ar y rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau ac astudiodd y Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol gan ennill gradd gyffredinol Rhagoriaeth, Gweithrediadau Peirianneg Lefel 2 a Bagloriaeth Cymru. O ganlyniad i’w gwaith caled mae hi’n awr wedi sicrhau Prentisiaeth Fecanyddol gyda Tata Steel.
Enillodd Scott Kihlberg wobr Prentis y flwyddyn ar gyfer y drydedd flwyddyn. Mae Scott ar ei ail flwyddyn yn astudio am HNC mewn Mesur a Rheoli.
Bydd Tascha a Scott yn mynd ymlaen i Wobrau Prentisiaeth y Deyrnas Unedig yn Llundain.
Cyrhaeddodd pump o ddysgwyr o Goleg Penybont rownd derfynol Gwobrau Gweithgynhyrchu i’r Dyfodol EEF. Y pump llwyddiannus oedd: