Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Bywyd Coleg » Lleoliadau Gwaith i Fyfyrwyr
Caiff y cwricwlwm ei gyfoethogi drwy amrediad o gyfleoedd addysg gysylltiedig â gwaith a lleoliadau profiadau gwaith yn defnyddio nifer o bartneriaid allanol. Bydd y rhain yn cynnwys siaradwyr gwadd, chwarae rôl, ymweliadau busnes a sesiynau ffug gyfweliad.
Bydd nifer sylweddol o fyfyrwyr yn dilyn lleoliad gwaith fel rhan o ddarpariaeth graidd eu cwrs am o leiaf wythnos yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae eraill yn cael cyfle o leoliad un diwrnod yr wythnos ar sail tymor. Nod y lleoliadau yw galluogi myfyrwyr i roi ar waith yr hyn y maent wedi'i ddysgu ar eu rhaglen astudiaeth, a datblygu sgiliau gweithle.
Caiff ymwelwyr addas eu dethol o gylch 30 milltir o'r Coleg, ac maent wedi cynnwys:
Mae myfyrwyr yn credu fod lleoliadau gwaith yn werthfawr iawn, ac maent yn aml yn arwain at swydd un ai ar sail ran-amser pan fyddant yn cwblhau eu cwrs, ar amser-llawn pan orffennir cwrs. Weithiau cynigir prentisiaeth i fyfyrwyr yn dilyn lleoliad gwaith llwyddiannus.
Cynhelir ymweliadau safle ac asesiadau risg i sicrhau fod y lleoliad yn ateb gofynion y rheoliadau Iechyd a Diogelwch. Yn ychwanegol, caiff costau teithio eu had-dalu am hyd at uchafswm o £5.00 y dydd pan gyflwynir derbynebau.
Trefnir lleoliadau gwaith gan Gydlynydd Addysg Gysylltiedig â Gwaith a Swyddogion Lleoliad Gwaith y Coleg, sy'n gweithredu o Gwasanaethau Myfyrwyr:
Mae gennym raglen Cyswllt Ysgol lwyddiannus a fydd yn ehangu yn y dyfodol o fewn yr agenda ‘Llwybrau Dysgu' 14-19. Mae rhai disgyblion ysgol yn cymryd lleoliadau profiad gwaith yn y Coleg drwy Gyrfa Cymru.