Lleoedd yn Ysgol Ddrama Rose Bgruford i Fyfyrwyr Coleg Penybont

Cafodd Riccardo Cocco, 18, o Bontyclun a Michael Taylor, 22, o Bencoed sy'n astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Penybont newyddion gwych yn ddiweddar eu bod wedi derbyn i Goleg Theatr a Pherfformiad Rose Bruford, un o brif conservatories Prydain.

Mae Coleg Theatr Perfformiad Rose Bruford yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol lefel prifysgol a phroffesiynol ar gyfer theatr a pherfformiad gyda graddau BA a MA yn seiliedig yn Sidcup, Caint.

Bydd Riccardo yn astudio BA (Anrh) Celfyddydau Theatr Ewropeaidd a Michael yn dilyn BA (Anrh) mewn Actio. Bu'r ddau fyfyriwr mewn clyweliadau ym mis Chwefror ac eto ym mis Ebrill cyn sicrhau eu lleoedd.

Dywedodd Rachel Morgan-Belle, Tiwtor y Cwrs "Mae hyn yn newyddion ardderchog ac rwy'n falch dros Michael a Riccardo eu bod wedi sicrhau lleoedd yng Ngholeg Rose Bruford. Maent wedi arddangos gwaith caled ac ymrwymiad yn ystod eu dwy flynedd yng Ngholeg Penybont ac mae dyfodol disglair o'u blaen."

Mae Coleg Rose Bruford yn galluogi myfyrwyr o wahanol broffesiynau yn y celfyddydau perfformio i gydweithio drwy gydol eu hyfforddiant. Mae myfyrwyr yn cynnal cynyrchiadau theatr mewn pedwar gofod perfformiad theatr ar y campws a myfyrwyr isradd trydedd flwyddyn yn cynnwys eu sioeau mewn lleoliadau yn Llundian yn cynnwys yr Unicorn Theatre a'r Leicester Square Theatre.

Sefydlwyd Coleg Rose Bruford yn 1950 ac arloesodd gyda'r radd gyntaf mewn actio yn 1976 ac mae'n un o'r darparwyr mwyaf cynhwysfawr o raddau galwedigaethol mewn theatr a chelfyddydau cysylltiedig yng Ngorllewin Ewrop.

Posted on 18/06/2012 by The Marketing Team