Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Lle 1af i Fyfyrwraig Trin Gwallt Coleg Penybont
Mae’n bleser mawr gan Goleg Penybont gyhoeddi i’w myfyrwraig, Jade Summers, ennill y lle cyntaf yn rownd ranbarthol Cystadleuaeth Trin Gwallt WorldSkills DU ddydd Iau 14 Ebrill. Cynhaliwyd y digwyddiad pwysig i ganfod pobl trin gwallt fwyaf creadigol y genedl yn salonau gwallt newydd gwych Coleg Penybont.
Cyflwynir gwobrau cyntaf, ail a thrydydd ar Lefel Ganolraddol ac Uwch ac enillodd Charlotte Button o safon Fich and Ramous yn y Bontfaen y lle cyntaf ar Lefel Uwch.
Cafodd myfyrwyr o 12 coleg o bob rhan o’r Deyrnas Unedig eu profi ar eu sgiliau gyda siswrn, creadigrwydd lliw a gallu steilio drwy gwblhau dwy dasg mewn chwe awr yn cyfeirio at drin gwallt menywod a dynion.
Ar agor i’r rhai sy’n astudio ar hyn o bryd at un ai NVQ lefel 2 neu 3 mewn trin gwallt, cynlluniwyd y digwyddiad i adlewyrchu’r heriau y byddent yn eu hwynebu yn gweithio mewn salon brysur. Roedd y tasgau’n cynnwys torri gwallt, lliwio a sychu gwallt dyn a menyw, gyda’r lefel uwch hefyd yn gorfod paratoi steil gwallt-i-fyny ar gyfer menywod. Gwnaed yr holl dasgau o fewn terfyn amser penodol. Beirniadwyd prentisiaid ar eu defnydd o offer, cyfuniadau lliw, creadigrwydd, cymhlethdod ac arddull cyfoes y cynlluniau
steiliau gwallt gorffenedig.
Esboniodd Mark Phillips, Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Habia: “Mae digwyddiadau cystadleuol fel WorldSkills yn ffordd wych i bobl ifanc yn ein sector ehangu eu profiad, dysgu dulliau a thechnegau newydd gan eu chymheiriaid a dysgu mwy am eu cryfderau a’u gwendidau yn nhermau eu gallu. Maent yn dda iawn am ffurfio cymeriad, ac roedd rhai o bobl amlycaf ein diwydiant yn cystadlu o pan oeddent yn ifanc iawn. Ac wrth gwrs, mae’n edrych yn wych ar eich CV. Rydym yn falch iawn i weld Coleg Penybont yn cefnogi WorldSkills ac yn cynnig y cyfle gwych hwn i bobl ifanc yn yr ardal.”
Cymerodd tair myfyrwraig o Goleg Penybont ran yn y gystadleuaeth, gyda Jade Summers a Megan Morgan yn cystadlu ar Lefel Ganolraddol a Jade Williams ar Lefel Uwch.
Mae’r gystadleuaeth yn rhan o rwydwaith cystadlaethau a hwyluswyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda chefnogaeth Gronfa Cymdeithasol Ewrop i hyrwyddo pwysigrwydd datblygu oedolion a phobl ifanc gyda sgiliau galwedigaethol cryf yn barod ar gyfer y gweithle.
Nod cystadleuaeth WorldSkills UK a skillscompetition Cymru yw canfod hyfforddeion galwedigaethol a chrefftwyr mwyaf talentog Cymru o drin gwallt ac adeiladu i beirianneg forol a thechnoleg gwybodaeth. Mae’r digwyddiad yn rhaglen ehangach o gystadlaethau a gynhelir rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf.