Hyfforddiant Engage yng Ngholeg Penybont

Aeth tair blynedd heibio ers i Hugh James Solicitors ddechrau cynllun peilot gyda Hyfforddiant Engage yng Ngholeg Penybont, ac mae'r berthynas yn mynd o nerth i nerth, gyda'r Coleg bellach yn hyfforddi dros 50 o staff y cwmni.

Yn 2007, ymunodd Coleg Penybont a Hugh James Solicitors, sydd yn 100 uchaf cwmnïau cyfreithiol y Deyrnas Unedig, i greu partneriaeth ddysgu newydd. Y nod ddechreuol oedd i'r Coleg ddarparu hyfforddiant NVQ i staff swyddfa iau Hugh James Solicitors fel rhan o'u rhaglen datblygu proffesiynol.

Aeth Coleg Penybont ati i baratoi am y dasg, gan awgrymu nifer o Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol yn addas i'r staff eu hastudio. Aeth yr hyfforddiant yn dda a phenderfynodd Hugh James Solicitors ymestyn y cynllun i ardaloedd eraill ar draws y busnes.

Dilynodd myfyrwyr Hugh James Solicitors gyrsiau hyfforddiant mewn amrywiaeth o bynciau a lefelau, yn amrywio o wasanaeth cwsmeriaid a gweinyddiaeth busnes i arwain tîm a gwaith warws a storio. Yn fwy diweddar bu gan Hugh James Solicitors a'i fusnes cysylltiedig cyfreithiol arbenigol Hugh James Involegal LLP 26 eraill o aelodau staff yn dilyn hyfforddiant NVQ gyda Choleg Penybont.

Dywedodd Diane Brooks, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Hugh James Solicitors, "Mae gan Hugh James Solicitors ymrwymiad i ddatblygiad staff a hyfforddiant gydol oes. Rydym wrth ein bodd gyda'r llwyddiant a sicrhaodd ein staff a gymerodd ran mewn cyrsiau yn y Coleg. Mae'r bartneriaeth hyfforddiant sydd gennym gyda Choleg Penybont wedi'n galluogi i ychwanegu at ein hacademi hyfforddiant mewnol ein hunain ac fel canlyniad ddarparu cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol cydnabyddedig. Mae cyn fyfyrwyr NVQ wedi dweud faint y gwnaethant fwynhau eu cwrs ac yn gallu defnyddio eu sgiliau newydd yn y gweithle. Mae nifer o'r myfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen i gyrsiau newydd gyda'r Coleg."

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Hyfforddiant Engage yng Ngholeg Penybont ar Ff: 01656 302363

 

Posted on 22/02/2012 by The Marketing Team