Gwasanaethau i Fusnes

Amdanom Ni

Gall yr Adran Gwasanaethau i Fusnes weithio'n uniongyrchol gyda chi a'ch busnes i ddarparu'r cyfleoedd hyfforddiant mae'ch busnes eu hangen i ddatblygu a chynyddu sgiliau eich gweithlu. Fel rhan o un o'r Colegau Addysg Bellach mwyaf yn Ne Cymru, caiff ein gwybodaeth a dealltwriaeth ddiwydiannol ei ategu gan dîm profiadol iawn o diwtoriaid. Mae'r cyfuniad hwn yn cynnig y sefydlogrwydd y byddai'ch cwmni yn ei ddisgwyl gan sefydliad mawr, ynghyd â'r arloesedd a hyblygrwydd y gall tîm cyfeillgar bach gyda ffocws ei roi. 

Sylweddolwn fod gweithlu sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn un o'r asedau gorau y gall eich sefydliad gael ac mae gennym ymrwymiad i gyflenwi rhaglenni ansawdd uchel sy'n diwallu eich anghenion hyfforddiant. Mae hyn yn cynnwys:

  • Prentisiaethau Modern
  • Hyfforddiant cwrs byr deddfwriaethol megis Rhifyn 17
  • Hyfforddiant seiliedig ar waith yn cynnwys NVQ.

Efallai nad ydych yn gwybod am rai o'r cyfleoedd cyllid newydd a phresennol sydd ar gael drwy amrediad o sianelau, ar gyfer hyfforddiant a chynyddu sgiliau. Medrwn eich helpu i ddynodi beth sydd ar gael ac o ble ...

I drafod eich gofynion busnes neu anghenion hyfforddiant, cysylltwch gyda'n Tîm Gwasanaethau i Fusnes, Ffôn: 01656 302 363 neu e-bost: bizenquiries@bridgend.ac.uk