Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Canlyniadau Dosbarth Cyntaf i Egin Wneuthurwyr Ffilmiau

Mae pedwar myfyrwyr a symudodd ymlaen o Goleg Penybont i Atrium Prifysgol Morgannwg yn 2011 i gwblhau trydedd flwyddyn eu gradd ffilm wedi ennill graddau dosbarth cyntaf. Dyfarnwyd saith gradd dosbarth cyntaf i ddosbarth o 29 myfyriwr.
Treuliodd Matthew Truelove, 22 o Bontypridd, Matthew Derrick, 20 o Gastell Nedd, Kevin Wong, 24 o Bencoed, ac Anthony Jones, 46 o Borthcawl, bedair blynedd yn astudio'n llawn-amser yng Ngholeg Penybont. Fe wnaethant yn gyntaf gwblhau BTEC Diploma Genedlaethol mewn Cynyrchiadau Cyfryngau, a ddilynwyd gan y Radd Sylfaen ddwy flynedd mewn Celfyddydau Creadigol (Ffilm a Fideo).
Canmolodd pob un o'r pedwar myfyriwr eu hamser yn yr Atrium a Choleg Penybont gyda Matthew Truelove yn dweud "fe wnaeth y cyfuniad o fodiwlau cwrs diddorol ac addysg ragorol ein galluogi i ddatblygu fel gwneuthurwyr ffilm a chyrraedd y pwynt lle'r ydym heddiw."
Dywedodd Clare Pompa, Tiwtor Cwrs y Radd Sylfaen mewn Celfyddydau Creadigol (Ffilm a Fideo): "Dangosodd y pedwar myfyriwr yma addewid mawr pan oeddent yn astudio yng Ngholeg Penybont, gan fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau a'r hyfforddiant gwych sydd ar gael. Ni allai'r tîm cyfryngau fod yn falchach i glywed am eu llwyddiant yn yr Atrium."
Yn ogystal â'u llwyddiant academaidd, enillodd Matthew Truelove, Kevin Wong a Matthew Derrick 'Wobr Ffilm Fer Orau' 2012 Prifysgol Morgannwg am eu drama 15 munud 'Henry'.
Roedd yn rhaid i'r pedwar myfyriwr ysgrifennu, cynhyrchu a cyfarwyddo drama goruwchnaturiol am batholegydd dawnus. Cafodd y cynnyrch gorffenedig ganmoliaeth uchel yn Arddangosfa Graddio Morgannwg a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ym mis Mehefin, lle derbyniodd y myfyrwyr eu gwobr gan Gwawr Hughes, Cyfarwyddwr Creative Skillset Cymru.
Mae'r gwneuthurwyr ffilm ifanc wedi sefydlu eu cwmni eu hunain, Key Motion Media, ac eisoes yn ennill enw i'w hunain am eu rhagoriaeth dechnegol ac ansawdd. I gael rîl ddangos y cwmni a gweld y ffilm fuddugol ewch i vimeo.com/keymotionmedia or facebook.com/keymotion media.