Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Cyflwyniad Cynhadledd Flynyddol FACE ('Forum for Access and Continuing Education')

Teithiodd Kathryn Sweet, Rheolwr Addysg Uwch, a Brian Paddison, Darlithydd Busnes, i Ogledd Iwerddon i gyflwyno sesiwn gweithdy a phapur i Gynhadledd Flynyddol FACE ('Forum for Access and Continuing Education') rhwng 4-6 Gorffennaf. Buont yn gweithio fel rhan o fforwm ysgoloriaeth Prifysgol Morgannwg gyda'r Athro Danny Saunders yn ymchwilio nodweddion myfyrwyr a dulliau dysgu ac addysgu a ddefnyddiwyd gyda myfyrwyr HNC, HND a Gradd Sylfaen mewn Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth.
Bu hwn yn weithgaredd ysgolheigaidd ardderchog gan roi'r cyfle i gydweithio ar brosiect ymchwil graddfa fach gyda phedwar coleg addysg bellach a staff y Brifysgol. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig gyda staff ym mhob un o'r pum coleg a grwpiau ffocws ymysg y cyfranogwyr arweiniol. Llawer iawn o ddiolch i'r holl staff a gymerodd ran. I gael mwy o wybodaeth ewch i www.ulster.ac.uk/aep/face2012/
Hawlfraint © 2012 Coleg Penybont