Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Ennill Dyfarniad Aur am Safonau Iechyd Corfforaethol
Mae Coleg Penybont yn hynod falch i gyhoeddi ein bod wedi ennill Dyfarniad Aur Safon Iechyd Corfforaethol.
Y Safon Iechyd Corfforaethol, a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru, yw’r nod ansawdd ar gyfer hybu iechyd gweithle yng Nghymru. Mae’n daith barhaus o arfer da a gwella ac yn cefnogi datblygu polisïau ac arferion sy’n hyrwyddo iechyd a lles yn y gwaith. Mae’r Safon yn targedu materion afiechyd ataliadwy allweddol yn y gweithle ac yn hyrwyddo blaenoriaethau Her Iechyd Cymru.
Cyflwynir categorïau efydd, arian, aur a phlatinwm i sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector sy’n gweithredu arferion i hybu iechyd a ffyniant y sawl a gyflogant. Fel cynlluniau eraill ansawdd gweithle, mae’n rhaglen gynyddol a chaiff eu sefydliadau eu hailasesu bob tair blynedd. Mae’r gwaith i ennill y safon yn gyson gyda’r model rhagoriaeth busnes, sy’n hybu ansawdd a datblygiad trefniadaeth llawer o sefydliadau.