Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Amdanom Ni » Ein Hanes
1928 - Agorwyd Sefydliad Mwyngloddiaeth a Thechnegol Pen-y-bont ar Ogwr gyda buddsoddiad gan Gronfa Lles y Glowyr a chynhaliwyd dosbarthiadau ar ein safle yn Heol y Bontfaen fin nos yn unig.
1930 - Ffurfiwyd Ysgol Dechnegol Iau i roi addysg dechnegol yn ystod y dydd ar gyfer bechgyn 13 i 15 oed. Croesawyd y derbyniad cyntaf o 50 bachgen gan y Pennaeth Eynon Davies, a'u dysgu gan ddim ond un aelod arall o staff, Edward Loveluck.
1945 - Sefydlwyd yr Ysgol Dechnegol Uwch wrth i'r Ysgol Dechnegol Iau gael ei huwchraddio.
1949 - Crëwyd Coleg Technegol Pen-y-bont ar Ogwr wrth i addysg bellach amser llawn ac addysg bellach ran amser gael eu chyfuno. Dros y deng mlynedd nesaf, caiff yr Ysgol a'r Coleg eu rhedeg wrth ochr ei gilydd cyn cyfuno'r Ysgol Dechnegol ac Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pen-y-bont ar Ogwr gyda nifer o aelodau staff yn symud i Heol Ewenni i'r hyn sydd bellach yn Ysgol Gyfun Brynteg.
1975 - Coleg Technoleg Pen-y-bont ar Ogwr. Caiff y Coleg ei uwchraddio eto.
2007 - Ganwyd Coleg Penybont ac mae hunaniaeth gorfforaethol yn gweld cyflwyno ‘campysau' gyda chyfeiriad at y pedwar coleg (Pen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Maesteg a Phorthcawl) a'r Ganolfan Fusnes yn Heol y Frenhines.
Mae gan Goleg Penybont heddiw fwy na 15,000 o fyfyrwyr amser llawn a rhan amser, gyda dros 500 cwrs mewn 20 maes galwedigaethol a gyflwynir mewn pum campws; Penybont, Pencoed, Heol y Frenhines, Maesteg a Phorthcawl. Ni hefyd yw'r darparydd mwyaf o gyrsiau Addysg Uwch o blith unrhyw golegau Addysg Bellach yng Nghymru gyda dros 1,000 o fyfyrwyr Addysg Uwch yn cymryd HNC, HND a graddau yn lleol yng Ngholeg Penybont.