Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Amdanom Ni » Ein Campysau
Dyma le byddwch yn mynychu'r rhan fwyaf o'ch dosbarthiadau. Mae'n safle prysur felly byddwch yn barod am y ffair a'r ffwndwr! Byddwch yn cymysgu gyda llawer o fyfyrwyr yn astudio pynciau'n amrywio o beirianneg drydanol i ddylunio celfi i arlwyo proffesiynol. Mae'r campws yn manteisio o fod yn agos at Ganol Tref Pen-y-bont ar Ogwr, y Ganolfan Hamdden a chyfleusterau lleol.
Mae Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus ac Astudiaethau Tir (Gofal Anifeiliaid, Cefn Gwlad, Ceffylau a Garddwriaeth) ynghyd â Bricwaith yn seiliedig ar gampws Pencoed. Bydd yr holl Dîm Adeiladu yn ymuno â Bricwaith yma pan fydd yr Academi Adeiladu newydd yn agor ym mis Rhagfyr 2009. Mae gan y campws lawer o ofod agored a gwyrddni, yn cynnwys cwrs golff naw twll, padogau a nifer o bitsiau rygbi a phêl-droed.
Mae'r campws yma ar Stad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr ac yma ar hyn o bryd mae ein cyrsiau Plymio, a'r Ganolfan Astudiaethau Proffesiynol sy'n cynnwys ein Hadran Addysg a Hyfforddiant a rhaglenni Addysg Uwch. Mae hyn yn sicrhau fod myfyrwyr sy'n dilyn cwrs addysg uwch yn manteisio o astudio wrth ochr myfyrwyr aeddfed eraill. Mae'r Ganolfan Menter Cyfryngau Newydd hefyd ar y safle, sy'n galluogi myfyrwyr cyfryngau a ffotograffiaeth i fwynhau adnoddau safon diwydiant.
Mae Coleg Maesteg mewn lleoliad cyfleus yn Stryd y Castell yng nghanol tref Maesteg ac o fewn cyrraedd rhwydd yr holl gyfleusterau lleol. Cafodd tu fewn yr adeilad ei adnewyddu'n llwyr ac mae'n cynnwys cyfleusterau ystafell ddosbarth helaeth, canolfan TG galw-heibio, canolfan ymwelwyr a siop goffi i fyfyrwyr. Gwnaed pob ymdrech i roi amgylchedd cyfeillgar sy'n diwallu anghenion pob unigolyn yn y gymuned leol.
Mae Campws Porthcawl mewn lleoliad cyfleus yng nghanol tref Porthcawl, uwchben Somerfield, ac o fewn cyrraedd rhwydd yr holl gyfleusterau lleol.
Mae campysau Coleg Penybont ar agor i fyfyrwyr o 8.30am ymlaen o ddyddiau Llun i ddyddiau Gwener. Ni fedrwn felly dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiogelwch a lles unrhyw berson ar y campws cyn yr amser hwnnw. Mae hyn yn eithrio ymweliadau/digwyddiadau a drefnwyd ymlaen llaw, lle bydd staff ar gael ar gyfer yr amser(au) a ddynodwyd.