Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn

Melissa Jenkins yw Dysgwr Cymwysterau Galwedigaethol y Flwyddyn 2011 yng Nghymru. Cwblhaodd Melissa ei chwrs BA (Anrh) Ymarfer Ffotograffiaeth yn y Coleg gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn ddiweddar. Mae’r dyfarniad hwn yn cydnabod unigolion sy’n defnyddio eu cymwysterau galwedigaethol i ysbrydoli eraill ac sy’n cyflawni tu hwnt i’w cyfoedion.
Roedd Melissa a Christopher Lewis, a astudiodd Wyddoniaeth Fforensig yn y Coleg, yn ddau o’r chwech yn y rownd derfynol. Roedd Melissa yn gydradd gyntaf gyda myfyriwr arlwyo o Goleg Iâl, Wrecsam.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Lowri Morgan, y seren deledu a’r rhedwraig marathon enwog, yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd ar 22 7Mehefin 2011 ac, ynghyd â’r seremoni wobrwyo, medrodd gwesteion ‘roi cynnig arni’ mewn gwahanol alwedigaethau.
Bu’r darlithwyr ffotograffiaeth David Lewis a Shaun McDermott yn arddangos ffotograffiaeth a thrin delweddau a’r tiwtoriaid peintio ac addurno Ray Miller a Simon Austin yn arddangos technegau peintio gyda Lowri Morgan yn rhoi cynnig ar effeithiau marmor.

Mae hwn yn llwyddiant gwych i Melissa ac yn dyst o lefel uchel yr addysgu a’r gefnogaeth a roddwyd gan Dave Lewis a’r tîm ffotograffiaeth, a fu’n addysgu Melissa am y 5 mlynedd ddiwethaf.
Enillodd Melissa hefyd Wobr Sylfaen Myfyriwr y Flwyddyn Nikon yn ddiweddar, gan dderbyn cyfle hyfforddi tri mis ar gyflog gyda’r ffotograffydd ffasiwn, portreadau a hysbysebu blaenllaw John Wright yn Llundain sy’n dechrau ym mis Gorffennaf eleni, ynghyd â £3,000 hael ar gyfer treuliau a chamera proffesiynol a chyfarpar lens safon uchaf Nikon yn werth £4,000.
“Pan gwblhaodd Melissa gynllun busnes yn ddiweddar fel rhan o’r cwrs, dywedodd y byddai mewn pum mlynedd yn hoffi bod yn ffotograffydd ffasiwn blaenllaw. Does gen i ddim amheuaeth o gwbl y bydd yn cyflawni hyn”, meddai Dave Lewis.