Dyfarniad Sylfaen Caerdydd mewn Celf a Dylunio

Mae Coleg Penybont yn falch iawn i gyhoeddi y caiff ‘Dyfarniad Sylfaen Caerdydd mewn Celf a Dylunio’, a gyflwynir ar hyn bryd gan Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, ei gyflwyno gan Goleg Penybont o fis Medi 2012 mewn lleoliad canolog newydd yng Nghaerdydd yn agos at gampws presennol Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd. Gan ddefnyddio’r arbenigedd a’r profiad a wnaeth y Ddiploma Sylfaen yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd mor llwyddiannus, mae’n fwriad gan Goleg Penybont feithrin a datblygu’r ddarpariaeth ymhellach. Mae hyn yn newyddion da iawn ar gyfer cymhwyster sy’n ganolog i ddatblygiad artistiaid a dylunwyr o bob rhan o Gymru a llawer o’r Deyrnas Unedig.

Gan adeiladu ar draddodiad cryf o bartneriaeth cydweithio, mae’r ddau sefydliad yn ystyried bod hyn yn gyfle newydd gwych i Goleg Penybont gydweithio ymhellach gyda’n partner Addysg Uwch ac ar yr un pryd fod yn ganolog wrth ddiwallu anghenion hyfforddiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae hefyd yn dangos llwyddiant cysylltiadau cydweithio presennol gyda UWIC yn ogystal ag amlygu enw ardderchog a safon uchel yr addysgu a gyflwynir ar hyn o bryd yn Ysgol Celfyddydau Creadigol Coleg Penybont. Yn wir, pan arolygwyd adran Celf a Dylunio Coleg Penybont yn 2009, canfu Estyn “yn gyffredinol, mae dilyniant i raglenni Addysg Uwch yn rhagorol.”

Mae Hayley Lewis yn enghraifft ardderchog o’r dilyniant yma ar ôl llwyddo i gael lle ar gwrs BA (Anrh) mewn Cerameg yn UWIC, ar ôl ennill 18 gradd rhagoriaeth ar y cwrs BTEC Diploma Cenedlaethol Celf a Dylunio dwy-flynedd yng Ngholeg Penybont.

“Mae hwn yn amser cyffrous iawn i’r Ysgol Celfyddydau Creadigol, gan fod mwy o alw am y lleoedd na’r 120 lle sydd ar gael bob blwyddyn. Rwyf wrth fy modd, yn seiliedig ar ansawdd ein gwaith a’n partneriaethau cryf, ein bod wedi cael y cyfle cyffrous eto heriol yma, a bydd cyflwyno’r rhaglen yn llwyddiannus yng Nghaerdydd yn rhoi’r sylfaen ar gyfer cyfleoedd pellach ar gyfer gweithio partneriaeth tebyg yn y dyfodol”, meddai Sharon James, Pennaeth Celfyddydau Creadigol, Coleg Penybont.

Mae gan y cwrs presennol enw ardderchog a thraddodiad cryf o baratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel Addysg Uwch ar draws yr ystod lawn o sefydliadau Celf a Dylunio ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y Coleg yn sicrhau y bydd safon yr hyfforddiant yn parhau yn y campws newydd yng Nghaerdydd.

Dywedodd yr Athro Gaynor Kavanagh, Deon Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd (CSAD): “Mae’r flwyddyn Sylfaen yn rhan hanfodol o hyfforddiant unrhyw artist neu ddylunydd. Bu CSAD bob amser yn falch o’r safonau a osodir yn y flwyddyn Sylfaen ac mae’n sicr y caiff y safonau hyn eu cadw yn ei osodiad newydd gyda Choleg Penybont. Mae CSAD bob amser wedi gwerthfawrogi ei berthynas waith gyda Choleg Penybont ac mae’n hyderus y bydd y dyfarniad yn parhau i fynd o nerth i nerth gyda hwy.’

Posted on 23/09/2011 by The Marketing Team