Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Dosbarth Celf yn cymryd rhan mewn Cystadleuaeth Ddylunio Genedlaethol

Bydd myfyrwyr celf benywaidd yng Ngholeg Penybont yn ymuno ag ysgolion a phrifysgolion o bob cwr o’r wlad wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth ddylunio arloesol sy’n cael ei lansio gan elusen Gymreig. I gefnogi’r gystadleuaeth gyffrous hon cymerodd y myfyrwyr a’r darlithydd Lee Thomas ran hefyd mewn tynnu ffotograffau hyrwyddo er mwyn denu pobl i gystadlu.
I weld y lluniau, ewch i’r safle flickr ganlynol: http://www.flickr.com/photos/65772356@N06/sets/72157627979238713/

Mae’r asiantaeth ar gyfer datblygu economaidd menywod yng Nghymru, Chwarae Teg, yn herio 20 o fyfyrwyr benywaidd uchelgeisiol yng Ngholeg Penybont i ddylunio darn celf newydd gan ddefnyddio ei logo eiconig i ddathlu penblwydd y sefydliad yn 20 oed yn 2012.
Gan ddefnyddio logo ‘rhubannau’ Chwarae Teg sy’n symbol o fudiad y Suffragettes, bydd angen i ymgeision gynrychioli cysyniadau ‘chwarae teg’ a datblygiad benywod yn eu gwaith. Mae’r gystadleuaeth yn agored i’r holl fyfyrwyr benywaidd sy’n astudio disgyblaeth greadigol yng Nghymru, o Safon Uwch i fyny, neu lefel gyfatebol, mewn ysgol, coleg neu brifysgol.
Bydd enwau enillwyr y wobr gyntaf a dwy ail wobr yn cael eu cyhoeddi yn ystod lansio arddangosfa benblwydd arbennig Chwarae Teg yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod (8 Mawrth) 2012.
Un o’r myfyrwyr o Goleg Penybont sy’n cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Ddylunio Chwarae Teg yw Sam Williams, 16 oed, o Bontyclun. Dywedodd hi: “Rwyf wrth fy modd yn creu collages, felly rwy’n meddwl am ddefnyddio cymysgedd o ffabrigau a graffeg yn fy narn terfynol. Rwyf wedi astudio mudiad y Suffragettes yn yr ysgol, felly mae’n help gallu tynnu ar yr hyn rwy’n ei wybod yn barod ar gyfer y gystadleuaeth yma. Mae’n wych gallu mynegi’r materion pwysig hyn a rhannu syniadau trwy gelf.”
Y tymor hwn, mae Lee Thomas, darlithydd mewn graffeg yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol yn y coleg, wedi gosod tasg i’r myfyrwyr sy’n astudio am ddiploma estynedig BTEC Lefel 3, sef dylunio eu ffurfdeipiau eu hunain a fydd wedyn yn cael eu hymgorffori yn eu cynigion ar gyfer y gystadleuaeth.
Mae Verity Lunn, 18 oed, o Lanilltud Fawr, hefyd yn dylunio cynnig ar gyfer y gystadleuaeth. Dywedodd hi: “Hwn yw’r tro cyntaf i mi ddysgu am fudiad y Suffragettes a’r materion sy’n wynebu menywod yn eu gwaith, felly rwy’n edrych ymlaen at ymchwilio i ddyfyniadau a gwybodaeth modern a hanesyddol i’w cynnwys yn fy ngwaith celf.”
Yn ystod tri mis arddangosfa Chwarae Teg, bydd gwaith yr enillydd yn cael ei weld gan fwy na 60,000 o ymwelwyr yn Amgueddfa’r Glannau.
Dywedodd Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg: “Nod y gystadleuaeth yw tynnu sylw at gyfraniad enfawr menywod ym maes celf a dylunio. Mae myfyrwyr Coleg Penybont wedi cynnig ffordd effeithiol i ymgorffori’r gystadleuaeth yn y cwricwlwm, ac rydyn ni’n wir ddiolchgar i’r coleg am gofleidio ysbryd y gystadleuaeth.”
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cynigion yw dydd Sul 18 Rhagfyr 2011. I gael manylion am sut i gystadlu ewch i http://www.chwaraeteg.com/design-contest/