Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Dathlu Llwyddiant Dysgu Seiliedig ar Waith
Cynhaliwyd y seremoni gwobrau dysgu seiliedig ar waith gyntaf erioed yng Ngholeg Penybont ddydd Mercher 21 Mawrth i ddathlu llwyddiannau ysbrydoledig ymgeiswyr dethol.
Cafodd 25 o fyfyrwyr o’r sector cyhoeddus, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector eu cydnabod am eu gwaith caled ac ymroddiad yn ennill eu Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) mewn amrywiaeth o bynciau yn cynnwys Rheolaeth, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Gweinyddiaeth Busnes a Dysgu a Datblygu.
Dywedodd Sarah Williams, Asesydd NVQ Coleg Penybont, “Roedd yn wych gweld ein hymgeiswyr yn derbyn cydnabyddiaeth arbennig am yr holl waith caled ac ymdrech y maent wedi ei roi yn eu NVQ. Medrodd yr ymgeiswyr gwblhau eu cymwysterau yn y gweithle, er bod ganddynt lawer o ymrwymiadau i’w trin yn eu diwrnod gwaith. Mae’r ymrwymiad hwn i ddysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol yn ysbrydoliaeth”.
Caiff y myfyrwyr eu cyflogi gan ystod eang o gyflogwyr lleol yn cynnwys Heddlu De Cymru, Legal & General, Hugh James Solicitors, Zenith Media, Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Action for Children a Choleg Penybont ei hunan lle mae llawer o’r cyflogeion yn cwblhau NVQ fel rhan o’u datblygiad proffesiynol.
Noddwyd y digwyddiad gan y bartneriaeth Cyfnewid Gwybodaeth ac roedd hefyd yn rhoi cyfleoedd ardderchog ar gyfer rhwydweithio. Dywedodd Andrew Whitcombe, Cyfarwyddwr Sgiliau, Coleg Penybont: “Roedd gwobrau cyfun cyntaf Cyfnewid Gwybodaeth a Dathlu Llwyddiant yn ardderchog. Roedd yn wych yn weld cynifer o ddysgwyr yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn cael eu cefnogi gan eu cyflogwyr. Mae’n dangos fod y sefydliadau hyn yn gwerthfawrogi hyfforddiant ac yn ei weld fel buddsoddiad yn eu cynlluniau datblygu presennol a dyfodol. Mae angen i ddysgu seiliedig ar waith gael ei ddathlu’n ffurfiol ac roedd Coleg Penybont yn awyddus i ddangos ein hymrwymiad i’w hanghenion hyfforddiant i ddysgwyr a’u cyflogwyr’.
Ers mis Mawrth 2008, mae Coleg Penybont wedi ardystio dros 1000 o gymwysterau a gweithio gyda bron 100 o gyflogwyr. Bu’r cymwysterau hyn mewn amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys Trin Galwadau, Technoleg Gwybodaeth, Dosbarthu a Gwaith Warws, Gweithrediadau Gweithgynhyrchu a Manwerthu. Mae’r Coleg yn ddiweddar hefyd wedi cychwyn cyflwyno cymwysterau Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Lletygarwch ac Arlwyo yn y gweithle