Cynnal cystadlaethau rhanbarthol a therfynol Technoleg Gwybodaeth Worldskills yng Ngholeg Penybont

IT Regional Worldskills Heat 2011

Mae Coleg Penybont yn hynod falch i gael ei ddewis fel lleoliad cystadlaethau  rhanbarthol a therfynol Technoleg Gwybodaeth Worldskills y flwyddyn nesaf ar:

  • Rownd Ranbarthol - Dydd Gwener 27 Ebrill 2012
  • Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig – Dydd Iau 21 a dydd Gwener 22 Awst 2012

Cynhaliwyd rownd ranbarthol TG  ym mis Mai yng Ngholeg Penybont hefyd a dywedodd Andy Hall, Rheolwr Prosiect Worrldskills am y digwyddiad hwnnw: “Fedra’i ddim canmol digon ar y Coleg. Digwyddiad heddiw oedd y rownd Technoleg Gwybodaeth orau i ni ei chynnal unrhyw le ym Mhrydain.”

Cynhelir y cystadlaethau unwaith eto yn Theatr Sony newydd y Coleg, sy’n safle amlbwrpas dwy haen yn cynnwys llwyfan llawn a 312 o seddi haenog ar y llawr daear. Medrir symud yr holl seddi’n rhwydd agor y gofod a rhoi lle i gystadleuwyr, tîm Worldskills, arddangoswyr ac ymwelwyr i’r digwyddiad.

 

Posted on 26/07/2011 by The Marketing Team