Cyllid ar gael i gynyddu sgiliau yn niwydiant bwyd Cymru

Mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC) wedi lansio rhaglen astudiaeth newydd drwy ei phartneriaeth Darpariaeth Cydweithio sy’n cynnwys Coleg Penybont. Gallai pobl sy’n gweithio yn y sector bwyd preifat sy’n byw a/neu weithio yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd fod â hawl i le sydd wedi ei ariannu’n llawn neu’n rhannol ar y rhaglen – mae amodau yn weithredol.

Bydd y Radd Sylfaen mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd  yn helpu rhai a gyflogir yn y Sector Bwyd i wella eu sgiliau a’u rhagolygon.

Datblygwyd y rhaglen i gysylltu’n llawn gyda diwydiant bwyd Cymru gan roi cyfle unigryw ar gyfer datblygu staff strategol. Cafodd yr holl fodiwlau eu mapio yn erbyn safonau gwasanaethau galwedigaethol (IMPROVE) y Cyngor Sgiliau Sector i sicrhau y caiff anghenion y diwydiant bwyd eu diwallu.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr fod un ai mewn cyflogaeth lawn-amser neu ran-amser er mwyn i’r cwmni elwa o gyllid ESF a bod o leiaf 18 oed.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen rhyddhad dydd 2 flynedd yn llwyddiannus gall myfyrwyr ddewis ychwanegu ati drwy symud ymlaen i BSc Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd a fedrid ei chyflawni dros ddwy flynedd arall o astudiaeth ran-amser. Fel modd o ddatblygiad proffesiynol parhaus mae hefyd astudiaeth bellach ar gael ar gyfer MSc dysgu o bell sydd newydd ei ddilysu gan UWIC ar gyfer y diwydiant bwyd.

Bydd y prosiect, a gefnogir gan raglen Cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru, yn helpu i godi hyder gweithwyr, gwella cynhyrchiant a llwyddiant cyffredinol y cyflogydd.

Wrth siarad ar lansiad y rhaglen, dywedodd Ray Newberry, cyfarwyddwr rhaglen Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd: “Dangosodd ymchwil gan y cyngor sgiliau sector ar gyfer bwyd a diod y bydd y diwydiant bwyd yn ddybryd o brin o staff technegol erbyn 2015-19. Caiff yr angen i ddatblygu’r gweithlu ei orfodi ar y gweithgynhyrchwyr wrth i’r angen am staff technegol ddod yn bwysicach i weithgynhyrchwyr i gadw a gwella lefelau busnes. Caiff mwy a mwy o ofynion eu dodi ar fusnesau bwyd ac mae arbenigedd rheolwyr technegol yn fater pwysig. Heb ddigon o bobl yn dod o brifysgolion i ateb y galw mae cyflogwyr yn edrych  ar staff presennol i lenwi’r bwlch. Bydd y rhaglen yma’n helpu i lenwi’r bwlch hwnnw”.

Gall darpar fyfyrwyr a chyflgowyr gael mwy o wybodaeth am y rhaglen drwy gysylltu â:

Ray Newberry, Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd E: rnewberry@uwic.ac.uk, Ff: 029 2041 6441

Gabi Howells, Coleg Penybont, E: ghowells@bridgend.ac.uk, Ff: 01656 302246
Posted on 21/10/2011 by The Marketing Team