Cydnabod Llwyddiant NVQ gyda Excelsior Plus

Cynhaliodd Prosiect Excelsior Plus yng Ngholeg Penybont Seremoni gydnabyddiaeth Arbennig yn ddiweddar i anrhydeddu 12 o gyflogwyr a'u 36 o gyflogeion oedd wedi cwblhau cymwysterau seiliedig ar waith yn y gweithle'n llwyddiannus gydag Aseswyr NVQ Coleg Penybont.

Cynhaliwyd y seremoni yng Ngwesty Coed-y-Mwstwr ger Pen-y-bont ar Ogwr. Cydnabuwyd cyflogeion oedd wedi cwblhau NVQ mewn Busnes a Gweinyddiaeth, Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cerbydau Cludo Teithwyr (Gyrru), Perfformio Gweithrediadau Gweithgynhyrchu, Arwain Tîm a Rheoli.

Dywedodd Clara Weekley o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, "Roedd yn wirioneddol wych gweld cynifer o unigolion gwych ac ysbrydoledig yn derbyn eu gwobrau."

Mae Prosiect Excelsior Plus yn gynllun a ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i helpu cyflogeion i ennill Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) er mwyn datblygu eu sgiliau a'u hyder i greu gweithlu mwy cynhyrchiol a chymwys.

Mae cyflogeion yn gymwys ar gyfer Prosiect Excelsior Plus os ydynt yn gweithio am fwy na 16 awr yr wythnos i gyflogydd bach i ganolig yn y sector preifat, elusen neu fenter gymdeithasol o fewn siroedd rhaglen Cydgyfeiriad Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) sef Sir Benfro, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Merthyr Tudful, Torfaen a Blaenau Gwent.

Mae Prosiect Excelsior Plus yn brosiect ar y cyd a gyflwynir gan Goleg Penybont, Coleg Merthyr Tudful a'r Coleg Ystrad Mynach. Adeg ysgrifennu hyn, mae 234 o fusnesau a sefydliadau wedi cymryd rhan gyda 1255 o ymgeiswyr wedi ymrestru ar gymwysterau. O'r rhai a ymrestrodd, mae 274 o gyflogeion wedi ennill eu NVQ ar y prosiect ers 2010. Yn ychwanegol, mae 49 cwmni wedi cael mynediad i gyngor polisi ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth sydd hefyd ar gael yn rhad ac am ddim ar y prosiect.

Darperir cyfanswm o 2800 o gyfleoedd NVQ a ariennir yn llawn ar gyfer ymgeiswyr yn siroedd Cydgyfeiriad ESF De Cymru a derbynnir ymrestriadau hyd fis Ebrill 2014.

I gael mwy o wybodaeth am Brosiect Excelsior Plus, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cysylltwch â Liz Plenty, Rheolwr Prosiect yng Ngholeg Penybont  yn E: excelsiorplus@bridgend.ac.uk neu Ff: 01656 302 329.

 

Posted on 27/02/2012 by The Marketing Team