Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » CVs Fideo yn Helpu Myfyrwyr gydag Anghenion Ychwanegol
Cafodd dau o fyfyrwyr Coleg Penybont gyfle’n ddiweddar i gymryd rhan mewn cynllun CV fideo unigryw newydd sbon gyda’r elusen ‘Follow Your Dreams’. Ffilmiwyd Danielle Tanner yn astudio cwrs ceffylau a Gemma Jones, myfyrwraig arlwyo, yn arddangos y sgiliau y maent wedi’u datblygu drwy eu hyfforddiant yn y Coleg ac yn cael eu cyfweld gan Martin Harris, sefydlydd Follow Your Dreams.
Diben y ffilmiau hyn yw medru dangos y sgiliau sydd gan fyfyrwyr gydag anghenion ychwanegol, yn hytrach na dibynnu ar CV papur, a all fynd ar goll yn rhwydd. Bydd y ffilmiau ar gael i’w gweld ar-lein yn www.specialfriendsonline ond bydd angen cyfrinair arbennig gan olygu mai dim ond cyflogwyr cymeradwy fydd yn medru gweld y CVs.
Gofynnodd Martin gwestiynau i Danielle a Gemma am eu cyrsiau, fel, “Beth ydych chi’n hoffi fwyaf am weithio gyda cheffylau?” a “Pha fath o swydd fyddech chi’n ei hoffi?” a hefyd gyfweld â Thiwtoriaid Cwrs y myfyrwyr, gan yn ymarferol roi geirda i fynd â CV y myfyrwyr.
Mae Follow Your Dreams yn elusen sy’n helpu pobl ifanc gydag anableddau dysgu i wireddu eu potensial llawn a’u hyder mewn Chwaraeon, Celf, Cerddoriaeth, Drama, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu. Mae’r elusen yn gwneud i lawer o ‘freuddwydion’ ddod yn wir ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu a fydd yn awr yn cynnwys sicrhau cyflogaeth mewn diwydiant y maent yn ei garu. Danielle a Gemma yw’r ddwy ymgeisydd gyntaf i gymryd rhan.
Ymunodd Danielle â Choleg Penybont gyntaf i gwblhau ystod o gyrsiau sgiliau hanfodol mewn rhifedd, llythrennedd a thechnoleg gwybodaeth ynghyd â Thystysgrif mewn Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol, sydd yn awr wedi’i galluogi i symud ymlaen i’r Diploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau. Dilynodd Gemma raglen debyg, Proffil Sgiliau Cenedlaethol OCR, sydd wedi ei galluogi i symud ymlaen i Dystysgrif Lefel Mynediad mewn Astudiaethau Bwyd.