Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Coleg Penybont yn lleoliad cystadleuaeth i ganfod prif dalent trin gwallt Prydain
Bydd myfyrwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan mewn digwyddiad pwysig i ganfod y bobl trin gwallt fwyaf proffesiynol.
Cynhelir cystadleuaeth trin gwallt WorldSkillsUK yng Ngholeg Penybont ar 14 Ebrill ac aiff 27 o bobl trin gwallt benben yn y rownd Gymreig hon fel rhan o’u cais i gael eu coroni fel y person trin gwallt gorau yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y gystadleuaeth yn denu myfyrwyr o 12 coleg o bob rhan o’r Deyrnas Unedig fydd yn profi eu sgiliau gyda siswrn, creadigrwydd lliw a gallu steilio i ddadlennu prif dalent newydd y genedl.
Cynlluniwyd y digwyddiad, sydd ar agor i’r rhai sy’n gweithio ar hyn o bryd tuag un at ai NVQ lefel 2 neu NVQ lefel 3 mewn trin gwallt, i adlewyrchu’r heriau fyddai yn eu hwynebu wrth weithio mewn salon prysur. Bydd y tasgau’n cynnwys torri, lliwio a chwyth-sychu gwallt dyn a menyw, a bydd y lefel uwch hefyd yn gorfod paratoi steil gwallt i fyny ar gyfer menyw. Mae’n rhaid gwneud yr holl dasgau o fewn amser penodol. Caiff prentisiaid eu barnu ar eu defnydd o offer, cyfuniadau lliw, creadigrwydd, cymhlethdod a steil gyfoes eu steiliau gwallt gorffenedig. Mae’r gystadleuaeth yn rhan o rwydwaith o gystadlaethau a hwylusir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop i hyrwyddo pwysigrwydd datblygu oedolion a phobl ifanc gyda sgiliau galwedigaethol cryf sy’n barod ar gyfer y gweithle.
Dywedodd Jane Wattleworth, pennaeth gwasanaethau i bobl yng Ngholeg Penybont: “Bydd y gystadleuaeth yma’n rhoi cyfle i gysylltu gyda hyfforddeion trin gwallt eraill a mesur eu safonau creadigol yn erbyn rhai eu cymheiriaid. Gall gwneud dim ond cymryd rhan mewn digwyddiad fel hwn wneud cystadleuydd yn gyflogai mwy deniadol. Byddai medru dweud iddynt gymryd rhan yn dangos eu bod wedi cyflawni lefel benodol o waith, gan roi arwydd i’r salon o ansawdd eu gwaith.
“Mae Coleg Penybont yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad blaenllaw yma a chefnogi sêr trin gwallt o bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Mae digwyddiadau fel hyn yn codi proffil yr hyn sy’n ddiwydiant creadigol a deinamig iawn.”
Mae’n nod gan World Skills UK a cystadleuaethsgiliau Cymru ganfod hyfforddeion galwedigaethol a chrefftwyr mwyaf talentog Cymru mewn ystod eang o sectorau o drin gwallt ac adeiladu i beirianneg forol a thechnoleg gwybodaeth. Mae’r digwyddiad yn un o raglen ehangach o gystadlaethau a gynhelir rhwng nawr a diwedd mis Gorffennaf.
Bydd y gystadleuaeth anodd hefyd yn gweithredu fel digwyddiad bwydo ar gyfer WorldSkills 2013 yn Leipzig, Yr Almaen, lle bydd dros 1,000 o’r gweithwyr ifanc mwyaf sgilgar o fwy na 50 o wledydd yn cystadlu dros bedwar diwrnod o flaen cynulleidfa o 150,000.
Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr, yw Hyrwyddwr WorldsSkills swyddogol Cymru. Dywedodd: “Mae’r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle ardderchog i dalent Cymru ddangos y medrant drechu’r byd. Medrant roi Cymru, fel cenedl fach, ar y map drwy arddangos safon eu gwaith eu hunain ac arddangos calibr gweithlu Cymru yn gyffredinol.
“Mae rhaglenni cystadleuaethsgiliau Cymru a WorldSkills UK yn rhoi cyfle cyffrous i unigolion arddangos eu crefft a’u sgiliau galwedigaethol, fel y gall y sgiliau hyn gael eu cydnabod a’u datblygu i ddiwallu anghenion cyflogwyr Cymru.”
Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.worldskillsuk.org/cymru.