Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Coleg Penybont yn Dathlu ‘Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang’
Digwyddodd Wythnos Entrepreneuriaeth Ryngwladol y Deyrnas Unedig rhwng 15 Tachwedd a dydd Gwener 21 Tachwedd 2010. Mae’r Wythnos yn gyfle i arddangos a dathlu’r holl waith entrepreneuraidd sy’n digwydd gydol y flwyddyn. Y llynedd mynychodd mwy na 500,000 o bobl ddigwyddiadau ledled y DU yn ystod yr wythnos.
Bu staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau entrepreneuraidd drwy gydol yr wythnos. Isod mae crynodeb o’r hyn a ddigwyddodd yng Ngholeg Penybont.
Roedd yr her yma i gyd yn ymwneud â gwneud arian! Y nod oedd dangos y gall pawb fod yn fentrus a bod yna sawl ffordd o ddangos eich dawn entrepreneuriaeth. Roedd timau o bump i gyd yn cyfrannu £1 o’u harian eu hunain fel ‘cyfalaf had’ o £5 eu tîm. Wedyn roedd ganddyn nhw dair wythnos i wneud cymaint â allen nhw o elw allan o’r £5.
• Enillwyr cyffredinol –‘Yr Enillwyr’- Diploma Cenedlaethol BTEC mewn TG - James Prosser, Jordan Roche, Phill Davies, Nathan Hermoli a Rhodri Jones, a wnaeth £110.05 dros y tair wythnos.
• Enillwyr Syniad Mwyaf Arloesol –‘Hell to the Yeah’ - Seren Gomez a Louise Tucker – Lefel 3 Diploma Estynedig mewn Cerddoriaeth.
• Enillwyr Mwyaf Arloesol/cyflwyniadau difyr –‘Basged Bob’- Ryan Gardner, Adam Brown, Julian Goode, Richard Bevan-Studio 34.
Gwnaeth y timau gyfanswm o bron £300 ar gyfer Plant Mewn Angen!
Roedd hwn yn gyfle bendigedig i ddarpar entrepreneuriaidsiarad gyda nifer o unigolion a sefydliadau a all eu helpu a’u llywio.
Roedd yna hefyd sgyrsiau gan rai oedd yn cymryd rhan gan gynnwys cwmnïau cyfrifiadureg a Chymorth Hyblyg i Fusnes trwy gydol y diwrnod.
Roedd yr her yma yn ymwneud â darganfod beth sy’n gwneud i entrepreneur llwyddiannus dicio! Y nod oedd dangos y gall pob math o bobl fod yn fentrus a bod sawl ffordd o ddangos eich dawn entreprenyddol . Cafodd pob tîm o bum enw person busnes adnabyddus, wedyn fe gawson nhw dair wythnos i ddarganfod cymaint ag a allen nhw am y person hwnnw. Yna roedd rhaid i bob tîm cyflwyno’u darganfyddiadau i banel o feirniaid. Yr enillwyr oedd:
• Enillydd Cyffredinol - Hannah Morris, Diploma Cenedlaethol BTEC Cynllunio Mewnol
• Enillwyr Cyflwyniad Mwyaf Gwybodus - 'Tim Apollo’ –Blwyddyn Gyntaf Teithio a Thwristiaeth - Anthony Kitcher, Hannah Powell, Laura Hazelwood
• Enillwyr Cyflwyniad Mwyaf Arloesol/Difyr -‘The Good, the Bad and we left Lily at home.’
Roedd 18 o stondinau crefft yn y digwyddiad, yn gwerthu popeth o deisennau i emwaith ac addurniadau Nadolig i brintiau argraffiad cyfyngedig. Gallai ymwelwyr hyd yn oed gael trin eu dwylo a chael tynnu eu lluniau mewn bwth ffotograffig!
Roedd Coleg Penybont wrth eu bodd yn cyhoeddi ein bod ni wedi gorffen yn 2il a 3ydd allan o 20 yn cystadlu allan o 20 tîm yn cystadlu o bum coleg.
• 2il Safle - tîm Plymio - Shaun Conkey, Adam Jackson, Adam Morris ac Austin Richards
• 3ydd Lle - tîm Plymio - Liam Sullivan, Lewis Jones, Jon Parry a Scott Griffiths.
Dywedodd Ruth Rowe, Swyddog Menter: “Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ysbryd mentrus a ddangoswyd gan fyfyrwyr Coleg Penybont yn ein Digwyddiadau Entrepreneuriaeth Byd-eang. Roedd yr uchafbwyntiau i mi yn cynnwys y cyflwyniad gan dîm Stiwdio 34 ‘Basged Bob’. Ar ôl cymryd rhan yn yr Her £5 ‘Gallwch ei wneud e!’ dywedodd y bechgyn yn y tîm eu stori entrepreneuraidd trwy gyfrwng cân! Ar ôl derbyn cyfraniad o fwyd gan Siop y Co-op yn y Pil yn gwbl ddi-dâl fe wnaeth y tîm frechdanau a gafodd eu gwerthu ar hyd a lled Stâd Ddiwydiannol Fferm y Pentref.
"Gwnaeth cyflwyniad ardderchog arall gan Tim Apollo yn ystod yr Her ‘Does dim rhaid i chi fod yn Del Boy!’argraff ar y beirniaid. Roedden nhw’n arbennig o hoff o’r brwdfrydedd a ddangoswyd gan un aelod o’r tim, Anthony Kitcher ynglŷn â’r Arglwydd Sugar, testun cyflwyniad y tim."
"Fe ymwelodd 441 o bobl a’r Ffair Grefftau ac Arddangosfa Menter gan ei wneud yn llwyddiant ysgubol. Gyda thimoedd o Plymio yn dod yn ail ac yn drydydd yn yr Her Marchnad Stoc ddydd Gwener roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr!”