Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Bywyd Coleg » Cefnogaeth Myfyrwyr
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr Coleg Penybont yng Nghampws Penybont ym Mloc A tu ôl i'r Dderbynfa, ac ym Mloc O/T, Bloc Addysgu tu ôl i'r Dderbynfa yng Nghampws Pencoed. Mae'r tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn darparu arweiniad, gwybodaeth a chefnogaeth, gan alluogi eich profiad myfyrwyr i fod mor werth chweil a rhydd o broblemau ag sydd modd.
Mae'r tîm yn cynnwys staff a all roi cyngor a gwybodaeth ar gyrsiau am gludiant myfyrwyr, cymorth ariannol, cymhorthdal ar gyfer prydau bwyd myfyrwyr, cyfleoedd dilyniant megis cyflogaeth, gwaith gwirfoddol neu Addysg Uwch a sesiynau lles a chwnsela.
Mae gan ein holl staff Gwasanaethau Myfyrwyr gymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol mewn Cyngor ac Arweiniad ac maent ar gael i'ch cynorthwyo ar y cam ymholiad a gwneud cais, yn ystod eich cwrs ac maent hefyd yn cynnig gwasanaeth dilynol ar ôl i chi orffen eich astudiaethau.
Beth bynnag yw'ch cwestiwn, ymholiad neu broblem, rydym yma i'ch helpu a'ch cefnogi.
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr ar agor drwy gydol y flwyddyn: dydd Llun i ddydd Iau 8.30am - 5pm a dydd Gwener 8.30am - 4.30pm.
Mae Gweinyddwyr Gwasanaethau Myfyrwyr ar bob campws a all eich cynghori ar gyrsiau, cyllid, lles ac unrhyw faterion cyffredinol.
Campws Penybont
Ff: 01656 302 337
Campws Pencoed
Ff: 01656 302 600
E: pencoed-enquiries@bridgend.ac.uk
Ff: 01656 302 364