Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, yn agor yr Academi Adeiladu

Ymunodd Janice Gregory AC Ogwr, gwahoddedigion o’r sector adeiladu a myfyrwyr a staff Coleg Penybont â Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, i agor ein Hacademi Adeiladu £5 miliwn yn swyddogol yng Nghampws Pencoed brynhawn dydd Iau 10 Chwefror.
Mae ein Hacademi Adeiladu newydd yn rhan o raglen Datblygu Cyfalaf gynhwysfawr £11m y Coleg - sy’n anelu i ddarparu ‘Campysau Dysgu 21g Ganrif’. Mae prosiectau’r datblygiad yn cynnwys Canolfannau Adnoddau Dysgu newydd, Ffreuturau newydd ac amrywiaeth o Ofodau Cymdeithasol modern i fyfyrwyr ar bob un o’r 3 prif gampws, yn ogystal â Chanolfan Addysg Uwch newydd yn ein campws ar Heol y Frenhines a Theatr Ddarlithio/Celfyddydau Perfformiad 400 sedd o’r math diweddaraf un, gyda thechnoleg taflunio 4HD, yng nghampws Penybont.
Croesawyd aelodau o Grŵp Adeiladu De Ddwyrain Cymru, aelodau lleol a rhanbarthol o’r sector adeiladu, penaethiaid ysgolion cyfun lleol a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i’r Academi Adeiladu o 1:30ymlaen a mwynhau lluniaeth wedi ei baratoi a’i weini gan ein myfyrwyr Lletygarwch.
Yn gyntaf, mwynhaodd y Gwir Anrh. Carwyn Jones daith o amgylch yr Academi adeiladu a chyfarfod â rhai o’n myfyrwyr, wrth iddynt ddysgu eu crefft o fewn gweithdai’r Academi.
Ar ôl y daith, croesawodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Penybont, y Prif Weinidog a gwahoddedigion yn ‘ardal prosiect’ yr Academi - adnodd dysgu sylweddol sy’n galluogi myfyrwyr i adeiladu a gweithio ar bob agwedd o dŷ dau lawr maint llawn.
“...Wrth i’r sector Adeiladu ddod o gyfnod ‘araf’ diweddar rydym yn hynod falch fod gennym adnoddau o’r math
diweddaraf mewn addysgu a dysgu, gan roi sgiliau rhagorol i arbenigwyr diwydiant y dyfodol i’w gwneud yn fwy cyflogadwy fyth wrth iddynt ymuno â marchnad swyddi cynyddol gystadleuol ...”
Ychwanegodd “... mae myfyrwyr ‘sy’n dysgu crefft’ ar ein rhaglenni Llwybrau i Brentisiaeth – cynllun prentisiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru – yn mwynhau’r gorau o’r ddau fyd – adnoddau dysgu gwych ynghyd â chyfnodau aml o leoliadau gwaith ‘ar y swydd..”.