Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Carwyn Jones, Arweinydd Llafur, yn cwrdd â Myfyrwyr

Ar ddydd Mawrth 12 Ebrill bu Carwyn Jones, Arweinydd Llafur, yn annerch dros 150 o fyfyrwyr o gampysau Penybont a Phencoed, gan ateb ystod eang o gwestiynau am faterion yn effeithio ar bobl ifanc heddiw yn cynnwys tai, iechyd, cyllid myfyrwyr, y system les, cyflogaeth ac ymfudiad.
Trefnwyd y cyfarfod ar ôl i Hayley Townsend o Gyngor Myfyrwyr y Coleg gysylltu â’i swyddfa. Esboniodd Hayley, “Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig fod myfyrwyr yn gwybod am yr etholiad sydd i’w gynnal yn y dyfodol agos a’r cyfle i’w lleisiau gael eu clywed. Gwahoddais Carwyn i annerch ein myfyrwyr gan fy mod yn gwybod ei fod yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac oherwydd y bu ei blaid yn ddylanwadol wrth sicrhau cyllid myfyrwyr yn y gorffennol.”
Siaradodd Carwyn hefyd am bwysigrwydd pobl ifanc yn pleidleisio a chynghori myfyrwyr ar sut i sicrhau eu bod wedi cofrestru i fedru pleidleisio.