Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Camp Lawn i Goleg Penybont a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe
Maent yn dweud fod pethau yn dod mewn trioedd a bu hynny'n wir ar gyfer Coleg Penybont a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe o'r brif gynghrair. Yr wythnos hon cyfarfu Brendan Rodgers, Rheolwr Clwb Pêl-droed Abertawe a Mark Jones, Pennaeth Coleg Penybont, i ffurfioli perthynas a fu'n datblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Fel rhan o'u Rhaglen Gloywi Cleientiaid TG, cyflenwodd Coleg Penybont 15 cyfrifiadur Apple Mac i'r clwb yn ddiweddar i'w defnyddio gan y timau cyfryngau a dadansoddi chwaraeon o fewn y clwb ynghyd â 25 cyfrifiadur personol ar gyfer ystafell TG ar gyfer academi ieuenctid y clwb. Dywedodd Brendan Rodgers "Mae'n wych cael yr adnoddau hyn ar gyfer ein tîm rheoli a'r academi ieuenctid. Rydym yn gwir werthfawrogi cefnogaeth Coleg Penybont wrth sefydlu ystafell TG ar gyfer ein chwaraewyr iau a galluogi ein staff i weithio'n fwy effeithiol, gyda thechnolegau cyfryngau newydd."
Bu Coleg Penybont hefyd yn sylfaenol wrth hyfforddi staff cymorth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe fel Ben Athure,Tirmon a chyn fyfyriwr yng Ngholeg Penybont a Myfyriwr y Flwyddyn Sefydliad Tirmoniaeth Cymru. Yn ei dro, mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn darparu cyfleoedd lleoliad gwaith yn rheolaidd ar gyfer myfyrwyr tirmoniaeth.
Yn yr un modd yn dilyn lleoliad gwaith llwyddiannus gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, caiff Danny McGowen, a fu'n astudio HND mewn Dylunio ar gyfer Cyfryngau Rhyngweithiol yng Ngholeg Abertawe, yn awr ei gyflogi'n llawn-amser o fewn eu Hadran Cyfryngau. Dywedodd "Uchafbwynt y ddwy flynedd yng Ngholeb Penybont oedd fy mhrosiect terfynol a wnes gydag Adran Cyfryngau Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe am y flwyddyn gyfan. Roedd hwn yn brofiad gwych i mi a rhoddodd gyfle i'r adran i brofi fy sgiliau. Fel canlyniad rwyf wedi cael swydd fy mreuddwydion."
Bydd Coleg Penybont a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn awr yn cydweithio ar bartneriaeth fydd yn cynnwys cyfleoedd profiad diwydiant ar gyfer myfyrwyr cyfryngau a ffotograffiaeth o'r Coleg, brandio ar-lein ar wefannau ei gilydd a chyfleoedd hysbysebu a chefnogaeth digwyddiadau cymunedol.