Beth sydd ymlaen
Mae Coleg Penybont yn cynnal nifer o ddigwyddiadau bob blwyddyn ac yn cymryd rhan mewn llawer mwy o ddigwyddiadau yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys:
- Dyddiau Agored sy'n rhoi cyfle i ddarpar fyfyrwyr ymweld â'n campysau a chael mwy o wybodaeth am y Coleg a'n cyrsiau.College Open Day Display
- Digwyddiadau corfforaethol megis ein Noswaith Wobrwyo Flynyddol a Seremoni Wobrwyo Addysg Uwch sy'n cydnabod a dathlu llwyddiannau ein myfyrwyr.
- Digwyddiadau adrannol megis Sioeau Celfyddydau Perfformio a'n Harddangosfa Celf, Dylunio a Chyfryngau flynyddol.
- Digwyddiadau myfyrwyr er enghraifft Wythnos RAG, cynllun codi arian gyda digwyddiadau ar ein campysau ac yn y Fwrdeisdref.
- Digwyddiadau cymunedol mewn partneriaeth gyda sefydliadau lleol megis Menter Bro Ogwr, Mentro Allan ac Ymddiriedolaeth y Tywysog ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion.
Ac rydym yn aml mewn digwyddiad yn agos atoch chi gan fynychu nosweithiau gyrfaoedd yn yr ysgolion cyfun lleol, mewn ffeiriau swyddi, cymryd rhan mewn digwyddiadau ‘dysgu yn y gwaith' gyda chwmnïau yn cynnwys RAF Sain Tathan, yn Niwrnod Agored Heddlu De Cymru a Sioe Pen-y-bont ar Ogwr, ar y cyrion yn y digwyddiadau cyn gemau ar gyfer y Celtic Crusaders a llawer, llawer mwy.