BEE Power

Mae myfyrwyr o Goleg Penybont a disgyblion o Ysgol Gynradd Dolau wedi cyfansoddi cân wreiddiol hip-hop ‘Bee Power’ i dynnu sylw at drafferthion y gacynen a chodi arian i achub y pryfyn anhygoel yma.

Mae dwy rywogaeth o’r peilliwr hollbwysig yma wedi diflannu o Brydain yn y 70 mlynedd diwethaf, yn bennaf oherwydd colli cynefin ac os na wneir rhywbeth bydd rhywogaethau eraill yn diflannu gyda chanlyniadau difrifol: “Os yw’r gacynen yn diflannu o wyneb y ddaear, ni fyddai gan ddyn fwy na phedair blynedd i fyw! Albert Einstein.

Mae eco-ryfelwyr ifanc Penybont yn gobeithio codi dros £5000 drwy werthu 7000 copi o ‘Bee Power’ a chyrraedd rhif 1 yn y siartiau. Aiff yr arian a godir i Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth y Gacynena Maint Cymru.

Caiff ‘BEE Power’ ei lansio yn Theatr Sony, Coleg Penybont ar 17 Hydref, pan fydd y gân ar gael i’w lawrlwytho am 79c ar iTunes.

Cafwyd y syniad arloesol pan fu Claire Gregory, ‘Darlithydd Menter’ y Deyrnas Unedig (2009) yn annog ei myfyrwyr technoleg gwybodaeth i gymryd rhan yn y prosiect fel rhan o strategaeth bioamrywiaeth y Coleg, a gwnaethant ymuno gyda myfyrwyr Cynhyrchu Cerddoriaeth a’r darlithydd Adam Richards i gynhyrchu’r gân.

Esboniodd Kyle Kemble, myfyriwr yng Ngholeg Penybont a gymerodd ran wrth gynhyrchu’r trac pam ei fod mor falch o fod yn rhan o Bee Power. “Nawr rydyn ni’n gwybod faint mae goroesiad y blaned yn dibynnu ar y gacynen gyffredin, rydyn ni eisiau gwneud popeth a fedrwn i godi ymwybyddiaeth. Dyna pam y byddai’n wych pe byddai pobl yn lawrlwytho ein cân a’i chwarae i’w teulu a ffrindiau.

Diflannodd dwy rywogaeth o’r peilliw hollbwysig yma ym Mhrydain yn y 70 mlynedd, yn bennaf oherwydd colli cynefin, a bydd mwy o rywogaethau yn diflannu yn y dyfodol os na wneir rhywbeth.

Dilynwch ni ...

www.facebook.com/beepowersong

www.twitter.com/beepowersong

 

Posted on 12/09/2011 by The Marketing Team