Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Arglwydd Digby Jones yn Cefnogi Hyfforddiant Galwedigaethol
Daeth cymuned fusnes Pen-y-bont ar Ogwr ynghyd ddydd Llun 24 Hydref yng Ngholeg Penybont i wrando ar araith ysbrydoledig Arglwydd Digby Jones dan y teitl ‘Datblygiad Busnes drwy Dwf Economaidd’.
Yn ystod ei ymweliad i Goleg Penybont, cafodd ‘Canolbwynt Menter’ Coleg Penybont ei agor yn swyddogol gan Arglwydd Jones o Birmingham. Mae’r canolbwynt yn amgylchedd unigryw ar gyfer myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau menter a datblygu eu sgiliau entrepreneuraidd, cyn mynychu cinio rhwydweithio a gwneud ei araith.
Ymddangosodd Arglwydd Jones yng Ngholeg Penybont, wrth i’r Coleg lansio ei adran hyfforddiant busnes dan ei enw newydd - Engage Training. Cafodd yr adran ei hailfrandio yn ddiweddar, a hwn oedd y digwyddiad rhwydweithio busnes cyntaf iddynt ei gynnal.

Mae Engage Training yn cynnig dewis helaeth o gyfleoedd ar gyfer busnesau sy’n dymuno ehangu. Mae nifer o gyrsiau byr pwrpasol ar gael, tîm hyblyg o aseswyr NVQ a chynllun prentisiaeth sydd yn gwarantu darparu gweithwyr talentog i fusnesau.
Siaradodd yr Arglwydd Jones am ei ddymuniad i ‘drwsio Prydain’ a’i gred mai dim ond gyda gweithlu sgilgar y gellir sicrhau llwyddiant yn y farchnad fyd-eang. Rhoddodd gefnogaeth frwdfrydig i waith Colegau Addysg Bellach megis Coleg Penybont wrth gyflwyno rhaglenni cymwysterau a phrentisiaeth galwedigaethol, seiliedig ar sgiliau.
Roedd y sylwadau a roddwyd ar Twitter yn cynnwys:
Digwyddiad ardderchog - wedi’i drefnu’n dda iawn a siaradwr diddorol tu hwnt! Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran! @BridgendForum.
Diolch i Arglwydd Digby Jones a @engagetraining am brynhawn diddorol iawn. Bwffe a Theatr Sony yn @bridgendcollege rhagorol.@TC_Hotels_Wales Town&Country Hotels
Gwasanaethodd Arglwydd Digby Jones fel Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI, Conffederasiwn Diwydiant Prydain, ‘Llais Busnes’ y Deyrnas Unedig, o 1 Ionawr 2000 hyd 30 Mehefin 2006 gan ymweld yn gyson â busnesau yn y Deyrnas Unedig ac ym mhob rhan o'r byd. Ef yn awr yw Cadeirydd Bwrdd Ymgynghori Busnes Rhyngwladol HSBC, Cadeirydd Triumph Motorcycles Cyfyngedig, Cadeirydd Bwrdd Ymgynghori Busnes Rhyngwladol British Airways a Llysgennad Corfforaethol Jaguar Cars. Mae hefyd yn Uwch Ymgynghorydd i nifer o gorfforaethau mawr.
Rhwng 1 Gorffennaf 2007 a 4 Hydref 2008 bu’n gwasanaethu fel Gweinidog Gwladol Masnach a Buddsoddi'r Deyrnas Unedig gan dderbyn arglwyddiaeth oes yn Nhŷ’r Arglwyddi lle mae’n eistedd ar y meinciau croes ac yn cael ei adnabod fel Digby, Arglwydd Jones o Birmingham.