Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Yn 15, 16 neu hyd yn oed 17 oed, mae'n anodd dewis gyrfa ... Sut medrwch wybod lle'r ydych wirioneddol eisiau bod mewn pump neu ddeng mlynedd.
Bydd rhai ohonoch yn gwybod yn reddfol. Byddwch yn gwybod eich bod bob amser eisiau bod yn beiriannydd, yn weithiwr cymdeithasol neu weithio yn y maes harddwch, felly mae'n fater o ganfod mwy am y cwrs cywir i ennill eich cymwysterau. I eraill, nid yw mor rhwydd â hynny, ac mae'r dewisiadau'n ymddangos yn ddiddiwedd.
Mae nifer o bobl a all eich helpu i benderfynu ar y cyfeiriad i'w gymryd. Medrwch gael eich ysbrydoli drwy sgwrs gyda ffrindiau, aelod o'ch teulu neu gynghorydd gyrfaoedd, neu efallai y byddwch yn darganfod dewis gyrfa drwy ymwelydd yn yr ysgol neu mewn lleoliad profiad gwaith. Manteisiwch ar gynifer o gyfleoedd ag y medrwch i gael gwybodaeth am wahanol yrfaoedd, gan fod myfyrwyr yn aml yn dweud wrthym fod rhywbeth nad oedd ganddynt fawr o ddiddordeb ynddo wedi blodeuo yn daith newydd gyffrous o ddysgu.
Dylech ofyn i chi'ch hunan:
I gael mwy o wybodaeth am astudio'n llawn-amser, ymwelwch â ni ar un o'n Dyddiau Agored neu glicio am brosbectws.
Medrwch hefyd ffonio: 01656 302 302 neu e-bost: enquiries@bridgend.ac.uk