Y Coleg rhagorol gydag ymrwymiad i'ch llwyddiant
Newyddion » Agor Theatr SONY Newydd

Bu Coleg Penybont yn rholio’r carped coch, gwisgo eu dillad gorau ac yn dathlu agoriad swyddogol ein ‘Theatr Sony’ newydd ddydd Iau 23 Mehefin.
Mewn dathliad gala, bu’r canwr clasurol Rhydian Roberts, a ddaeth i amlygrwydd ar raglen X Factor, yn agor y theatr yn swyddogol cyn croesawu ein perfformwyr ar y llwyfan.
Roedd y perfformwyr yn cynnwys grwpiau lleol:
ynghyd â pherfformiadau gan gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn cynnwys:
Bu dros 250 o westeion yn bresennol yn yr agoriad yn cynnwys Janice Gregory AC, Peter Black AC, Maer a Maeres Pen-y-bont ar Ogwr a chysylltiadau yn y diwydiannau creadigol megis Roger Burnell o It's My Shout Production Cyf, Claire Novelli o Gwmni Theatr Fluellen a Lee Jukes, DJ lleol Bridge FM, a chafwyd derbyniad diodydd a canapés ar ôl cyrraedd.
Enwyd y theatr yn ‘Theatr Sony’ i gydnabod y sgrin 4K a’r system sain o’r math diweddaraf a osodwyd gan Sony, ac sy’n cydnabod y berthynas agos rhwng y cwmni a’r coleg. Ni yw’r unig goleg ym Mhrydain sydd â’r dechnoleg yma a medrir ei haddasu i 3D gyda newid syml mewn lens.
Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd sydd ar gael i’r Ysgol Celfyddydau Creadigol, bydd y Coleg yn eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau ar draws y coleg, megis sefydlu myfyrwyr, cyfarfodydd ysgol, siaradwyr gwadd a’n noswaith Wobrwyo Flynyddol. Gobeithiwn yn y dyfodol y y bydd y theatr ar gael i grwpiau cymunedol ar benwythnosau ac yn ystod cyfnodau gwyliau.
Cafwyd sylw yn y wasg i’r digwyddiad yn y Western Mail ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin ynghyd â’r Gazette a The GEM yr wythnos ddilynol. Roedd sylw iddo hefyd ar Wales On-line ynghyd â’n gwefan ein hunain, a dywedodd Lee Jukes ar ei sioe y trannoeth faint yr oedd wedi mwynhau’r digwyddiad.