Agor Canolfan Addysg Uwch Newydd

Roeddem yn hynod falch i groesawu Leighton Andrews, Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, i agor ein Canolfan Addysg Uwch newydd ddydd Iau 31 Mawrth 2011.

Mae’r Ganolfan yn darparu ar gyfer 1150 o fyfyrwyr addysg uwch ac yn cynnig amgylchedd unigryw iddynt astudio’n lleol am Raddau Sylfaen, diplomâu HND, Graddau a chymwysterau proffesiynol eraill ar sail lawn-amser neu ran-amser. Mae gan y Ganolfan gyfleusterau o’r math diweddaraf un ar gyfer Technoleg Gwybodaeth, Ffotograffiaeth a dylunio Cyfryngau Newydd, yn ogystal â mannau cynhwysfawr i fyfyrwyr ddysgu a hamddena.

Fel darparydd mwyaf cyrsiau Addysg Uwch yn y sector Addysg Bellach yng Nghymru, mae Coleg Penybont wedi llwyddo i gynyddu ei enw da fel darparydd o safon ar gyfer cyrsiau lefel 4 ac uwch o fewn De Cymru. Sicrhawyd twf flwyddyn ar flwyddyn, gyda chynnydd rhagorol o 9% mewn ceisiadau, cynnydd o 32% yn nifer yr ymgeiswyr a dderbyniwyd a chynnydd o 14% yng nghyfanswm nifer ymrestriadau yn 2010. Daeth y llwyddiant hwn yn rhannol oherwydd rhan-ariannu’r Ganolfan Addysg Uwch gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhan o raglen Datblygu Cyfalaf £11m gynhwysfawr y Coleg.

Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg: “Mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymiad i greu amgylcheddau dysgu sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif. Dyna pam ein bod wedi darparu dros £4 miliwn mewn cyllid cyfalaf i ddiweddaru tri o brif gampysau Coleg Penybont, yn cynnwys Heol y Frenhines.

“Mae’r Ganolfan yn enghraifft wych o’r hyn y medrir ei gyflawni pan fydd awdurdodau lleol, darparwyr addysg bellach a darparwyr addysg uwch yn dod ynghyd i uchafu’r cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer pobl ifanc. Mae’n dangos gwir ymrwymiad i’r rhanbarth a bydd yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu a sgiliau, gwell cyfleusterau lleol ac yn denu swyddi newydd i’r ardal.”

Ar ôl dadorchuddio plac coffa ar gyfer y Ganolfan newydd, fe wnaeth y Gweinidog hefyd gwrdd a llongyfarch y pum myfyriwr Addysg Uwch a wnaeth geisiadau llwyddiannus am Ysgoloriaeth Coleg Penybont. Mae’r Ysgoloriaethau yn gynllun newydd gan Goleg Penybont a gynlluniwyd i gefnogi myfyrwyr gyda’r costau sy’n gysylltiedig gydag astudio am gymhwyster addysg uwch.

Mae Victoria Griffiths (HND Rheolaeth a Gweinyddiaeth Busnes), Michelle Mulvaney (BA Anrh Gwaith Cymdeithasol), Richard Woolley (HND Rheolaeth Amgylcheddol), Andre Merrick (HND Dylunio ar gyfer Cyfryngau Rhyngweithiol) a Paula Campbell (HND Astudiaethau Adeiladu) bob un wedi manteisio o ysgoloriaeth £1,000 ar gyfer pob blwyddyn o’u cwrs Addysg Uwch.

 

Posted on 01/04/2011 by The Marketing Team