Adain Fairwood yn Agor yn Nhŷ Weston

Roedd staff Coleg Penybont, cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Fairwood a gwahoddedigion yn bresennol yn agoriad ‘Adain Fairwood’ yn Safle Preswyl Tŷ Weston yn y Coleg ar fore Iau 2 Rhagfyr.

Fe wnaed datblygu ‘Adain Fairwood’ yn bosibl gan gyfraniad hael oddi wrth Ymddiriedolaeth Fairwood. Mae Ymddiriedolaeth Fairwood yn elusen gwneud grantiau annibynnol a sefydlwyd yn 2008. Ei phrif bwrpas yw cefnogi unigolion yn Ne Cymru sydd â’r dalent, potensial ac uchelgais i ddatblygu a thyfu ac yn eu tro i ddarparu manteision ehangach i’w cymunedau.

Bydd y grant yn galluogi’r Coleg i ehangu’r cyfleoedd addysg breswyl ar gyfer grŵp o bobl ifanc gydag anableddau o fewn y gymuned.

Yn ogystal ag aelodau Ymddiriedolaeth Fairwood, cafodd gwesteion o Gyrfa Cymru, gwahanol ysgolion arbennig yn yr ardal a Gwasanaethau Cymdeithasol groeso cynnes gan fyfyrwyr Tŷ Weston wrth iddyn nhw gyrraedd, a soniodd llawer am y ‘brwdfrydedd’ a mwynhad a ddangosodd y myfyrwyr trwy gydol y bore. “Mae Tŷ Weston ar hyn o bryd yn rhoi llety i 26 o fyfyrwyr gydag anableddau ac fe’i sefydlwyd yn arbennig i helpu pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed i gael gwell mynediad i Addysg Uwch,” medd Kath Jones, Rheolwr Tŷ Weston.

“Bydd y buddsoddiad gan Ymddiriedolaeth Fairwood yn galluogi’r Coleg i ehangu eu cyfleoedd addysg breswyl i grŵp ehangach o fewn y gymuned, gan sicrhau darpariaeth ddigonol i fyfyrwyr gydag anableddau corfforol a rhai sy’n wynebu heriau sylweddol wrth geisio cael mynediad amser llawn i addysg bellach.”

Mae Tŷ Weston yn derbyn nifer gynyddol o geisiadau gan fyfyrwyr y sbectrwm Awtistiaeth ac mae rhodd gan Ymddiriedolaeth Fairwood wedi helpu i wella’r ddarpariaeth yn Nhŷ Weston ar gyfer y dysgwyr hyn. Mae Ymddiriedolaeth Fairwood wedi ariannu ystafell arbenigol i gwrdd ag anghenion y grŵp yma. Mae Ystafell Fairwood yn llecyn heddychlon ble gall myfyrwyr ymlacio a mwynhau amgylchedd tawel, symbyliad-isel, synhwyraidd.

Defnyddiwyd rhywfaint o’r grant i brynu canolfannau adloniant ar gyfer pob un o’r mannau cymunedol yn Nhŷ Weston. Mae’r rhain yn cynnwys y setiau teledu, chwaraewyr DVD a chonsolau gemau diweddaraf un, er boddhad mawr i fyfyrwyr yn Nhŷ Weston.

Wedyn cafodd y gwesteion frecwast yn cael ei weinyddu gan Fyfyrwyr Arlwyo Tŷ Weston, cyn cael eu tywys ar daith o gwmpas yr adnoddau newydd. I gwblhau’r bore dadorchuddiwyd plac Tŷ Weston gan Ddirprwy Bennaeth Coleg Penybont, Jo Kelso a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Fairwood, Brian Larkin.

Wrth agor yr adain ar ôl y daith o gwmpas yr adnoddau, dywedodd Brian Lakin, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Fairwood: “Mae hwn yn gyfle gwych i fuddsoddi mewn prosiect sy’n gosod esiampl wirioneddol ragorol ac sy’n anelu at gynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc gydag anghenion ac anableddau penodol iawn.

“Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Fairwood yn 2008 gyda’r nod benodol o gefnogi unigolion yn Ne Cymru sydd â’r dalent, potensial ac uchelgais i ddatblygu ac rydym yn hyderus y bydd y buddsoddiadau hyn, trwy weithio mewn partneriaeth gyda Choleg Penybont a sefydliadau eraill ar draws y rhanbarth, yn darparu nid yn unig fanteision unigol, ond hefyd yn gallu gwasanaethu’r gymuned yn ehangach.”

Posted on 20/01/2011 by Marketing Team